British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2011, 17:32 GMT 18:32 UK
Parc: Cyhoeddi enw'r bachgen

Y "SwampFlyer" (llun gan y Daily Post)
Agorodd gwifren wib y "SwampFlyer" ar Ebrill 18

Mae crwner wedi agor a gohirio cwest wedi i fachgen 11 oed farw mewn parc antur yng Ngwynedd.

Roedd Bailey Sumner yn 11 oed ac yn hanu o Blackpool.

Bailey Sumner
Roedd Bailey Sumner yn hanu o Blackpool

Disgynnodd oddi ar wifren wib, un o atyniadau'r Gelli Gyffwrdd ym Methel ger Caernarfon ddydd Sul.

Yn y cyfamser, mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau na fyddan nhw'n ymchwilio ymhellach i'r farwolaeth.

Mae Heddlu Gogledd a Chyngor Gwynedd yn cynnal ymchwiliad ar y cyd.

Roedd y bachgen yn defnyddio gwifren wib y "SwampFlyer" ym Mharc y Gelli Gyffwrdd pan ddisgynnodd.

Elw

Fe ail-agorodd y parc fore Mawrth, Ebrill 26, a bydd elw'r dydd yn mynd i gronfa Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y gweithgor eu bod wedi gwneud ymchwiliad cychwynnol ond eu bod bellach wedi trosglwyddo'r mater i Gyngor Gwynedd.

Mae plant eisoes wedi bod yn ysgrifennu negeseuon personol a'u hatgofion amdano ac fe fydd y rhain i'w gweld yn yr ysgol
Dayle Harrison, Pennaeth Ysgol Gynradd Boundary, Blackpool

Mewn datganiad dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Boundary, lle oedd Bailey yn ddisgybl, fod y newyddion wedi dychryn y staff a disgyblion.

"Roedd Bailey yn fachgen hoffus iawn," meddai Dayle Harrison, "yn fachgen talentog a galluog iawn.

"Ac roedd yn hoff iawn o chwaraeon, yn enwedig pêl-droed, ac yn mwynhau beicio BMX."

Dywedodd fod rhai ar gael i gynnig cyngor i staff a disgyblion.

"Fe fyddwn ni'n trafod gyda'r rhieni y ffordd orau i gofio Bailey ond rydym yn deall eu bod nhw eisiau amser i alaru a dod i delerau efo'u colled.

"Mae plant eisoes wedi bod yn ysgrifennu negeseuon personol a'u hatgofion amdano ac fe fydd y rhain i'w gweld yn yr ysgol."

Mewn datganiad dywedodd staff y parc antur eu bod yn ddiolchgar i bawb oedd wedi gyrru negeseuon cydymdeimlad i deulu'r bachgen ond hefyd am y negeseuon o gefnogaeth i'r parc.

Ymchwiliad

Mae rheolwyr y parc wedi dweud eu bod yn cydweithredu gyda'r awdurdodau sy'n cynnal ymchwiliad.

Mewn datganiad dywedodd Steve Williams, rheolwr gweithredol y parc, fod bachgen 11 oed wedi marw.

"Cafodd yr offer diogelwch eu harchwilio am 10am ddydd Sul fel rhan o'n proses diogelwch.

"Roedd popeth yn iawn. Mae diogelwch yn flaenoriaeth i ni bob amser ac rydym yn awyddus iawn i wybod be sydd wedi digwydd.

"Rydym yn cydymdeimlo'n llwyr gyda theulu'r bachgen."

Ychwanegodd Mr Williams fod y wifren yn cyrraedd uchder o 30 troedfedd neu naw medr.

Yn ôl gwefan y cwmni, dyma'r wifren hiraf yng Nghymru, 475 troedfedd neu 145 medr o hyd ar draws y dyffryn coediog.

Wythnos yn ôl yr agorodd y "SwampFlyer" ar Ebrill 18.



HEFYD
Gwifren wib: Bachgen 11 wedi marw
25 Ebr 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific