British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Ebrill 2011, 17:13 GMT 18:13 UK
Bachgen 11 wedi marw ar ôl syrthio o wifren wib

Parc Gelli Gyffwrdd
Yn ôl gwefan y cwmni, y wifren wib yw'r hiraf yng Nghymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai bachgen o ardal Blackpool fu farw ar ôl syrthio oddi ar wifren wib (zip wire) mewn parc antur yng Ngwynedd.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Barc Gelli Gyffwrdd ym Methel ger Caernarfon am 4.40pm ddydd Sul.

Dydd Llun dywedodd yr heddlu nad oedden nhw mewn sefyllfa i gyhoeddi mwy o fanylion am y bachgen.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd lle bu farw.

Mae rheolwyr y parc wedi dweud eu bod yn cydweithredu gyda'r awdurdodau sy'n cynnal ymchwiliad.

Bu'r ganolfan ar gau ddydd Llun fel arwydd o barch i deulu'r bachgen.

"Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu'r bachgen," meddai'r Prif Uwcharolygydd Neil Anderson ddydd Llun.

"Rydym yn cynnal ymchwiliad ar y cyd gyda'r Awdurdod Lleol.

"Does dim modd i ni ryddhau mwy o fanylion am y bachgen ac yn gofyn am breifatrwydd i'w deulu ar adeg anodd iawn."

Archwilio

Dywedodd y parc hefyd bod offer diogelwch wedi ei archwilio yn gynharach yn y diwrnod.

Mewn datganiad dywedodd Steve Williams, rheolwr gweithredol y parc, bod bachgen 11 oed wedi marw.

"Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu ac fe fyddan nhw, fel ninnau, yn cynnal ymchwiliad.

"Cafodd yr offer diogelwch ei archwilio am 10am ddydd Sul fel rhan o'n proses diogelwch.

"Roedd popeth yn iawn. Mae diogelwch yn flaenoriaeth i ni bob amser ac rydym yn awyddus iawn i wybod be sydd wedi digwydd."

"Rydym yn cydymdeimlo'n llwyr gyda theulu'r bachgen."

Ychwanegodd Mr Williams bod y wifren 30 troedfedd (9 medr) o uchel.

Yn ôl gwefan y cwmni, dyma'r wifren hiraf yng Nghymru, yn 145 medr (475 troedfedd) ar draws y dyffryn coediog.

Wythnos yn ôl yr agorodd y wifren, "SwampFlyer", Ebrill 18.

Yn ôl y wefan mae'n cynnig rhai o'r golygfeydd gorau o Gymru, Yr Wyddfa a mynyddoedd y Carneddau.

Pan agorodd yr atyniad, dywedodd y parc bod "ymwelwyr o bob oed" yn gallu defnyddio'r "SwampFlyer".

Dywedodd y cynghorydd lleol, Huw Price Hughes, oedd yn yr agoriad wythnos yn ôl ac a gafodd flas o'r atyniad, bod y digwyddiad wedi dychryn yr ardal leol.

"Rydym yn cydymdeimlo gyda'r teulu am eu colled.

"Mae'r parc yn gyfraniad pwysig i'r economi leol gan gyflogi dros 100 dros yr haf."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific