Mr Powell yw arweinydd y grwp Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Rhondda Cynon Taf
|
Mae'r heddlu yn ymchwilio i honiadau fod ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol wedi aflonyddu ar swyddogion y blaid Lafur. Cafodd y cynghorydd Mike Powell, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhontypridd, ei arestio a'i ryddhau. Dywed Llafur fod yr honiadau yn ymwneud â dau aelod staff yr aelod seneddol Llafur lleol Owen Smith. Maen nhw hefyd yn honni fod yr heddlu yn archwilio ffôn symudol a chyfrifiadur sy'n eiddo i Mr Powell. Cafwyd cadarnhad gan Heddlu'r De eu bod wedi holi a rhyddhau dyn 51 oed ar fechnïaeth. Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol mae yna gwynion "maleisus" wedi eu gwneud yn y gorffennol yn erbyn Mr Powell. Gofynnwyd i Mr Powell am sylw. Dywed Llafur Cymru fod Allen Bevan a Gareth Mantle - sy'n gweithio i Owen Smith AS - wedi cwyno i'r heddlu. Maen nhw'n dweud nad dyma'r unig gwynoion. Deellir fod un o'r honiadau yn ymwneud a fideo o unigolion yn cael ei gyhoeddi ar y we. "Hwn yw'r diweddara ymhlith nifer o gwynion maleisus gan gynghorwyr Llafur am Mike Powell," meddai llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn ôl asiant Mr Powell, Karen Roberts, byddai'n amhriodol iddo wneud sylw yn ystod ymchwiliad gan yr heddlu. Ond ychwanegodd: "Mae'r Ombwdsmon wedi derbyn chwe cwyn yn ei erbyn yn ystod y 12 mis diwetha, ond penderfynwyd peidio mynd ymhellach. "Fe wnaed honiad arall ychydig fisoedd yn ôl a phenderfynodd yr heddlu ar y pryd i beidio â mynd a'r mater ymhelach. "Ac yna, ychydig wythnosau cyn etholiad mae'r mater yn cael ei godi eto." Yn ôl Llafur Cymru mae'r heddlu yn ystyried y mater yn un difrifol. Ychwanegodd llefarydd: "Ond gan fod Mr Powell ar fechnïaeth a bod y mater yn nwylo'r heddlu, nid rydym yn credu y byddai'n addas i wneud unrhyw sylw pellach." Dywed Heddlu'r De fod dyn 51 oed wedi ei arestio ar ôl i gŵyn gael ei dderbyn yn ei erbyn. "Mae'r ymchwiliad i'r honiadau yn parhau."
|