British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Ebrill 2011, 13:38 GMT 14:38 UK
Addysg: Maes y gad

Mae addysg wedi bod yn destrun amlwg yn yr ymgyrch

Wedi cyfres o adroddiadau beirniadol ar sefyllfa addysg yng Nghymru, mae rhieni ac athrawon eisiau gwybod sut fyddai'r pleidiau gwahanol yn ymdrin â sefyllfa addysg yng Nghymru.

Dadansoddiad Cieran Jenkins

Mae yna gryn sylw ymysg prif addewidion y pleidiau ar y bwlch sy'n bodoli rhwng gwariant ar addysg yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr.

Yn 2001, dim ond £31 yn llai oedd yn cael ei wario yma.

Erbyn hyn, y bwlch yw £604.

Mewn un ffordd neu'r llall mae pob un plaid yn addo mynd i'r afael a hyn; Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol drwy gynyddu gwariant; Plaid Cymru drwy orfodi awdurdodau lleol i sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd ysgolion; a'r Torïaid drwy gyllido ysgolion yn uniongyrchol ac anwybyddu cynghorau yn gyfan gwbl.

Ond mae canolbwyntio ar y bwlch gwariant, sydd bellach yn bwnc cyfarwydd i'r mwyafrif o athrawon a rhieni, yn dacteg peryglus.

Gwariant ar bob disgybl gan awdurdodau lleol sy'n cael ei fesur gan ffigyrau'r bwlch gwariant.

Ni fyddai polisïau Plaid Cymru yn cael unrhyw effaith arno, ond byddai'r Ceidwadwyr yn lledaenu'r bwlch gan y bydden nhw'n torri'r gyllideb addysg ymhellach na chynlluniau presennol.

Yr unig ffordd i gau'r bwlch gwariant yw i fuddsoddi llawer iawn yn fwy o arian yn ein ysgolion nag yn Lloegr - anodd iawn gyda gwariant cyhoeddus fel y mae.

Ond yn ynghanol ymgyrch etholiadol, go brin y bydd unrhyw blaid yn cyfaddef hynny.

Mae'r pedair prif blaid yn cystadlu i brofi mai nhw sydd â'r ateb i weddnewid system addysg Cymru ac i godi safonau.

Beth yw addewidion y pleidiau?

Llafur

  • Mwy o gyllid i ysgolion.
  • Brecwast ysgol am ddim a llaeth i blant dan saith.
  • Cefnogaeth i fyfyrwyr o Gymru fel bod dim angen iddyn nhw dalu ffioedd dysgu uwch.

Plaid Cymru

  • Taclo anllythrennedd, gan haneru'r broblem erbyn 2016 a sicrhau bod 95% o blant 11 yn gadael ysgol gynradd yn gallu darllen erbyn 2020.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn mesur ac yn darparu ar gyfer y galw am addysg cyfrwng Cymraeg
  • Adolygu a diwygio'r drefn addysg gyda'r nod o wella dulliau dysgu, safonau dysgu, cyrhaeddiad disgyblion a chynyddu cyllid i ysgolion

Ceidwadwyr

  • Rhoi mwy o bŵer i rieni, athrawon a llywodraethwyr.
  • Cyllido athrawon yn uniongyrchol trwy Lywodraeth y Cynulliad.
  • Buddsoddi mewn cynllun adeiladu ysgolion eang.

Democratiaid Rhyddfrydol

  • Rhoi cyllid ychwanegol i ddisgyblion sydd ei angen fwyaf fel y gall ysgolion fuddsoddi mewn dosbarthiadau llai neu addysg un-i-un i daclo'r gwahaniaeth mewn gwariant rhwng Cymru a Lloegr.
  • Buddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddi i athrawon, codi safonau a herio athrawon i ddarparu ar gyfer ein plant.
  • Sicrhau bod gan bobl yr hawl i astudio'u lefel A cyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) am ddim, beth bynnag eu hoed.

Am fwy o wybodaeth am bolisiau'r pleidiau, edrychwch yma .



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific