Aelod Senedd Ewrop UKIP Cymru wedi beirniadu "bwlio" y pedair prif blaid yn y Cynulliad
|
Mae plaid UKIP wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio â dechrau cyfri pleidleisiau gogledd Cymru tan y bore wedi Etholiad y Cynulliad. Dywedodd Aelod Senedd Ewrop UKIP Cymru, John Bufton, ei fod yn cefnogi prif swyddog etholiadol y gogledd ac mae wedi beirniadu "bwlio" y pedair prif blaid sy yn y Cynulliad. Mae'r pedair prif blaid am i'r gogledd ddilyn trefn gweddill Cymru a chyfri'r pleidleisiau dros nos ar noson y bleidlais. Ond dywedodd swyddogion y gogledd fod y trefniadau mewn lle ers tro ac nad oedden nhw'n bwriadu newid eu meddwl. 'Bwlio' Mewn llythyr at Brif Swyddog Cyfri'r gogledd, y Dr Mohammed Mehmet, mae Mr Bufton yn cymeradwyo "penderfyniad anrhydeddus i amddiffyn lles eich staff a pheidio ag ildio i'r dosbarth gwleidyddol yn y Cynulliad sydd wedi penderfynu dull sy'n cyfateb i fwlio mor hwyr yn y dydd." Yn gynharach yn yr wythnos, fe unodd arweinwyr Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru wrth roi pwysau ar Dr Mehmet, gan ddweud y byddai cyfri'r diwrnod wedyn yn golygu oedi annerbyniol. Bydd cyfri'r pleidleisiau'r refferendwm ar y system bleidleisio i'r DU ddim yn dechrau tan 4pm brynhawn Gwener, Mai 6. Dim hawl Ychwanegodd Mr Bufton: "Mae dadleuon yr arweinwyr yn dangos eu bod yn gosod eu dymuniadau nhw yn uwch na rhai y bobl fydd yn cyfri'r pleidleisiau. "Er eu bod yn dadlau y bydd gohirio'r cyfri yn effeithio ar y sylw i'r canlyniadau, alla i ddim gweld sut y gall hynny fod yn wir." Yn y cyfamser, fe bleidleisiodd cynghorwyr Sir Fflint o blaid cynnig yn galw ar eu swyddog etholiad i drefnu bod pleidleisiau dwy etholaeth o fewn y sir - Alyn a Glannau Dyfrdwy a Delyn - yn cael eu cyfri dros nos. Ond dywedodd llefarydd ar ran y cyngor nad oedd gan yr awdurdod hawl i orchymyn y swyddog etholiad sut i wneud ei waith.
|