Mae Llafur a Phlaid Cymru'n parhau i ddadlau am bwy sy'n haeddu'r clod am y ffordd ymatebodd Llywodraeth y Cynulliad i'r dirwasgiad. Tra'n cymryd rhan ar raglen wleidyddol CF99 gwadodd y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan mai Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru oedd yn gyfrifol am gyflwyno cynlluniau i warchod swyddi yng Nghymru pan oedd Mr Jones yn Weinidog yr Economi. Ieuan Wyn Jones a Rhodri Morgan lofnododd y cytundeb Cymru'n Un i ffurfio clymblaid Llafur-Plaid Cymru, gan gyd-weithio fel Dirprwy a Phrif Weinidog am dair blynedd. Dywedodd Dafydd Trystan Davies, ymgeisydd Cynulliad i Blaid Cymru ar y rhaglen wleidyddol CF99 nos Fercher mai Ieuan Wyn Jones oedd yn gyfrifol am ReAct a ProAct, ond cafwyd ymateb chwyrn gan Rhodri Morgan. Roedd ProAct yn rhoi cyllid i gwmnïau oedd yn cael trafferthion yn y wasgfa economaidd i hyfforddi eu staff tra bod ReAct yn rhoi help i bobl oedd wedi colli eu swydd. Eisoes, mae Vaughan Gething, ymgeisydd Llafur wedi dweud "Os yw Plaid Cymru yn cymryd y clod am ProAct a ReAct, mae fel teithiwr yn cymryd y clod am yrru bws." 'Honiad rwtsh' Wfftiodd Plaid Cymru'n honiad yn syth, ond nos Fercher ymunodd Mr Morgan yn y ddadl ar y mater. "Nid Ieuan Wyn Jones oedd yn gyfrifol, Jane Hutt a Leslie Griffiths oedd yn gyfrifol, chi'n trio honni hynny er mwyn trio creu rhyw boblogrwydd iddo fe," meddai wrth dorri ar draws Mr Davies. Roedd Mr Davies yn ymateb i gwestiynau ar record Plaid Cymru ar yr economi fel rhan o glymblaid Cymru'n Un. "Mae pawb yn trio cymeryd y clod," meddai Mr Davies wrth i Mr Morgan ei herio. "Gweinidog yr economi wnaeth gyflwyno'r cynlluniau. "Y gwir yw bod Ieuan Wyn Jones wedi bod yn arwain ar gynllun ProAct a ReAct fel rhan o'r Llywodraeth." Parhaodd Mr Morgan i fynnu mai "honiad rwtsh yw e." 'Problem yno ers sbel' Roedd Aled Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Harri Lloyd Davies o'r Ceidwadwyr hefyd ar y rhaglen. "Pwy sy'n derbyn y cyfrifoldeb am y ffaith bod sefyllfa Cymru wedi gwaethygu yn y pedair blynedd diwethaf yma?" holodd Mr Roberts. Dywedodd Dafydd Trystan Davies bod y Llywodraeth dan arweiniad Ieuan Wyn Jones wedi cyflwyno rhaglen adfer yr economi i ymdrin â'r "problemau hirdymor." "Pam ei bod hi wedi cymeryd pedair blynedd i weitho hwn mas?" holodd Harri Lloyd Davies. "Mae'r broblem wedi bod yno ers sbel." Mae modd gweld y rhaglen yn llawn
yma
|