Pan ddaw noson y cyfri mi fydd y sylw penna'n naturiol ar y seddi ymylol hynny y bydd y canlyniad terfynol yn dibynnu arnyn nhw.
Mae 'na ddyrnaid ohonyn nhw yn y de orllewin, o Lanelli draw i arfordir sir Benfro.
Arwyn Jones sydd wedi bod yn edrych ar y rhanbarth, yr etholiadau ac yn siarad gyda rhai o'r ymgeiswyr.