British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Ebrill 2011, 10:34 GMT 11:34 UK
Toyota: Prinder cyflenwadau

Ffatri Toyota
Mae prinder cyflenwadau o Japan

Mae ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy i gynhyrchu llai am gyfnod oherwydd problemau cyflenwadau o Japan yn sgil y daeargryn yno.

Yn ystod yr wythnosau nesa bydd dydd Iau yn cael ei ddefnyddio fel diwrnod hyfforddiant yn hytrach na chynhyrchu.

Mae'r ffatri yn cyflogi 445 a bydd y gweithwyr yn cael eu talu yn ôl yr arfer.

Hefyd bydd gweithwyr yn cael gwyliau ar ddyddiau Gwener yn ystod mis Mai ar yr amod eu bod yn gweithio oriau ychwanegol unwaith bod y sefyllfa wedi ei datrys.

Bydd ffatri Glannau Dyfrdwy a ffatri arall y cwmni yn Swydd Derby ar gau rhwng Ebrill 22 a Mai 2.

Dywed y cwmni fod y gallu i weithio'n hyblyg yn golygu y byddan nhw'n gallu ymateb i'r alwad am eu cynnyrch unwaith i'r cyflenwadau gael eu hadfer.

Dywedodd Peter Hughes, sy'n swyddog gydag undeb Unite, fod y sefyllfa yn un anodd.

"Mae'r llyfr archebion yn llawn ond mae diffyg cyflenwadau yn achosi problem."

Roedd o'n gobeithio y byddai'r ffatri yn cynhyrchu yn ôl yr arfer erbyn diwedd Mai, ond nad oedd sicrwydd o hynny.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific