British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Ebrill 2011, 06:28 GMT 07:28 UK
Gobeithio troi hen stiwdio deledu'n ganolfan ddringo

Un o'r waliau sydd gan Beacon Climbing (Llun: Beacon Climbing/Ray Wood)
Dywed Cwmni Beacon Climbing eu bod am ehangu eu darpariaeth

Fe fydd hen stiwdio deledu Barcud Derwen yng Nghaernarfon yn gartre newydd i ganolfan ddringo dan do.

Ym mis Gorffennaf 2010 fe canolfan Barcud Derwen ar Stad Cibyn yn y dref gau ar ôl i'r cwmni gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ac fe gollodd 35 o bobl eu gwaith.

Dywed cwmni Beacon Climbing y byddan nhw'n adleoli i'r safle gydag adnoddau newydd modern.

Mae'r cwmni yn dweud y bydd symud i'r lleoliad newydd yn gymorth iddyn nhw ehangu eu busnes.

Am yr 17 mlynedd diwethaf mae'r ganolfan wedi ei lleoli ychydig filltiroedd i ffwrdd yng Ngheunant rhwng Llanberis a Chaernarfon.

Caiff 10 o bobl eu cyflogi yno yn ogystal â nifer o hyfforddwyr llawrydd.

Ond mae prydles y ganolfan ar fin dod i ben.

Gwell darpariaeth

"Roeddem eisiau symud er mwyn ehangu ac fe ddaeth safle Barcud ar gael," meddai Gill Lovick, a sefydlodd y cwmni gyda'r hyfforddwr a'r dringwr brwdfrydig Steve Mayer.

"Mae'r lleoliad yn berffaith.

Stiwdio Barcud, Caernarfon
Cafodd holl weithwyr Barcud yng Nghaernarfon eu diswyddo

"Fe fydd yn galluogi i ni osod waliau uwch ac fe fyddwn yn gallu gwella'r ddarpariaeth ar gyfer yr ymwelwyr.

"Rydym eisiau bod yn un o'r llefydd dringo waliau gorau yn y DU wedi i ni orffen.

"Ar hyn o bryd does 'na ddim pobl yn pasio ac yn galw mewn ar hap.

"Dim ond dwywaith y dydd mae'r bws yn dod i'r pentref a dwi'n siŵr nad ydi rhai o'r bobl leol yn gwybod am ein bodolaeth".

Dywedodd bod eu cynnig wedi cael ei dderbyn gan y gweinyddwyr sy'n delio gyda materion Barcud Derwen.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn ystyried cais cynllunio ar gyfer y ganolfan newydd.

Bydd 'na wal ddringo rhaff 52 troedfedd (16 medr) o uchder yn ogystal â wal arall 15 troedfedd o uchder (4.5 medr); lefel isaf ar gyfer pob gallu gan gynnwys rhai ag anghenion arbennig.

Mae'r cwmni yn cynhyrchu a gosod cyfarpar dringo ar draws Prydain ac maen nhw'n gobeithio symud eu gwaith cynhyrchu i'r safle newydd.

"Mae'n lleoliad agored iawn ac ar eu ucha yn 16 medr mae 4 medr yn uwch na'r hyn sydd ganddo ni," ychwanegodd Ms Lovick.

Os fydd 'na ddim problemau gyda phryniant y safle a'r cais cynllunio dros yr wythnosau nesaf yna mae'r cwmni yn gobeithio cwblhau'r gwaith dros yr haf yn barod ar gyfer tymor y gaeaf - y cyfnod prysura yn draddodiadol ar gyfer canolfannau dringo dan do.



HEFYD
Cwmni darlledu yn creu 15 swydd
01 Gorff 10 |  Newyddion
Barcud: Colli mwy o swyddi
18 Meh 10 |  Newyddion
'Pob help' er mwyn achub swyddi
10 Meh 10 |  Newyddion
Chwilio am brynwr i gwmni adnoddau
24 Mai 10 |  Newyddion
Cytundeb newydd i gwmni teledu
12 Mai 10 |  Newyddion
Diwedd y daith i Uned 5
27 Tach 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific