Dyma'r ail o bum erthygl a fydd yn trin a thrafod maniffesto'r pedair prif blaid ar bwnc penodol. Yma mae Haf Elgar, o Gymdeithas Y Ddaear Cymru, wedi bod yn edrych ar be sydd gan y pleidiau i'w gynnig o ran yr amgylchedd.
Be sydd gan y pedair brif blaid i'w gynnig?
|
Yn gyffredinol mae maniffestos y pedair prif blaid yn rhoi mwy o bwyslais ar gadarnhau polisïau sydd eisoes wedi eu penderfynu yn hytrach nag addewidion newydd. Mae hyn yn rhannol oherwydd toriadau ariannol ond mae'n siomedig os yw'r pleidiau yn meddwl mai nawr yw'r amser i laesu dwylo er gwaethaf argyfwng newid hinsawdd. Mae'r pedair plaid yn ymrwymo i gadw at dargedau torri allyriadau, naill ai drwy doriadau blynyddol o 3%, torri 40% erbyn 2020 neu leihau ôl troed ecolegol, gyda'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr yn cydnabod i raddau nad yw hyn yn ddigonol. Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn cynnig Mesur Newid yn Yr Hinsawdd gyda thargedau hir dymor a blynyddol a system monitro. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn addo cyllidebau carbon i fedru mesur effaith carbon cynlluniau'r llywodraeth, a Llafur yn addo ymgorffori egwyddor datblygu cynaliadwy mewn deddfwriaeth. Mewn nifer o feysydd mae'r pleidiau yn defnyddio rhethreg debyg i'w gilydd, gan gefnogi swyddi gwyrdd, ynni adnewyddol, datblygiad rheilffyrdd trydanol a bwyd lleol. Rhoir tipyn o sylw i ynni, gydag amryw dargedau - o gynhyrchu dwywaith cymaint o drydan adnewyddol ac yr ydyn ni'n defnyddio heddiw erbyn 2025 gan Lafur i nod hynod uchelgeisiol y Ceidwadwyr i gynhyrchu 100% o'n ynni o ffynonellau adnewyddol erbyn 2025. O ystyried mai targed Ewrop yw 20% o ynni adnewyddol erbyn 2020 a Phrydain wedi cytuno i darged o 15% fel cyfraniad at hynny, ai bwgan gwallau'r maniffestos sydd wedi drysu ynni a thrydan yma? Syniadau arloesol Mae hefyd dal i fod archwaeth i ddefnyddio ynni llanw, yn enwedig yr Hafren, ac i ddatganoli ynni hyd at o leiaf 100MW i'r Cynulliad, gyda'r Ceidwadwyr a Llafur yn cefnogi hyn a Phlaid Cymru yn galw am ddatganoli holl bwerau cynhyrchu ynni er mwyn gwneud y gorau o'n hadnoddau naturiol. Mae'n ymddangos i gynllun effeithlonrwydd ynni tai 'Arbed' brofi'n llwyddiannus a phoblogaidd, gyda chartrefi cynnes neu dlodi tanwydd yn cael ei bwysleisio gan bob plaid. Anodd dweud lle mae ymrwymiad ariannol yn newydd neu'n rhan o gynllun cymal 2 i arbed neu ariannu tlodi tanwydd, ond mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur yn sicr yn addo arian pellach.
Un blaid sydd wedi crybwyll y gair niwclear yn eu maniffestos
|
Mae ambell syniad arloesol yng nghanol yr addewidion polisi, er enghraifft menter 'Bwyd Blasus Bwyd Bro' Plaid Cymru i gynyddu bwyd lleol a chynaliadwy mewn ysgolion ac ysbytai, cynllun y Democratiaid Rhyddfrydol i gyflwyno Oystercard Cymru-eang a 'Beltiau Glas' i rwystro datblygu ar orlifdiroedd gan y Ceidwadwyr. Eto, un o'r pethau mwyaf diddorol wrth ddarllen trwy'r dogfennau yw'r hyn sydd ar goll. Efallai mai'r rhyfeddaf yw nad oes son am faes polisi gwastraff gan y Democratiaid Rhyddfrydol o gwbl. Ond er bod cefnogaeth gan y gweddill i ailgylchu nid oes son am y cynlluniau i adeiladu llosgyddion enfawr i losgi gwastraff er gwaethaf ymgyrchoedd amlwg yn eu herbyn ym Merthyr, Caerdydd a'r gogledd. Ac er gwaethaf rôl arloesol Cymru fel un o'r rhanbarthau cyntaf yn Ewrop i ddatgan ei hun yn rhydd o gnydau GM, does dim son am gadw Cymru'n ddi-GM. O ystyried y pwyslais ar ynni, rhyfedd mai dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd hyd yn oed yn crybwyll y gair 'niwclear'. Efallai i'r maniffestos gael sêl bendith y pleidiau cyn trychineb atomic Japan ond gyda nodi 25 mlynedd ers Chernobyl ar Ebrill 26 - sy'n dal i gael effaith ar ffermydd yn y gogledd - ac ail atomfa yn Wylfa yn rhan o gynlluniau llywodraeth San Steffan, rhyfedd o beth yw i'r pleidiau beidio codi pryderon am ddiogelwch a chost ynni niwclear, ac effaith y gwastraff a fydd yn gyfrifoldeb i'r Cynulliad.
Mae dadansoddiad o'r polisïau
addysg;
iaith;
iechyd;
economi;
ar wefan Newyddion BBC Cymru
.
|