British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Ebrill 2011, 08:11 GMT 09:11 UK
Eitemau anaddas i lawr toiledau

Sbwriel
Mwy na 3,000 o eitemau o sbwriel ar bob cilomedr o draeth yng Nghymru, medd y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

Gan fod pobol yn rhoi eitemau anaddas i lawr toiledau mae mwy o lygredd ar draethau, yn ôl y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

Dywedodd y mudiad fod y sbwriel ar draethau Cymru yn uwch na'r cyfartaledd Prydeinig.

Ar gyfartaledd mae dros 3,000 o eitemau o sbwriel ar bob cilomedr o draeth yng Nghymru.

"Mae'n siom fawr fod cyfanswm y sbwriel yng Nghymru wedi codi 9%," meddai Gill Bell, swyddog Cymru'r mudiad.

"Mae hyd yn oed yn fwy o destun pryder bod eitemau sy'n cyrraedd trwy garffosiaeth wedi codi 110%.

"Gallem yn hawdd rhwystro'r ffynhonnell afiach hyn o sbwriel rhag cyrraedd ein traethau trwy beidio â defnyddio'r tŷ bach fel bin sbwriel, a pheidio â gosod eitemau fel gwastraff glanweithiol, tampons a chondomau i lawr y toiled.

59,226 o eitemau

"Mae angen cefnogaeth y cyhoedd arnon ni er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd yn y sbwriel sy'n bygwth ein traethau a'n bywyd gwyllt."

Y llynedd fe lanhaodd gwirfoddolwyr y mudiad 73 o draethau yng Nghymru.

Cafodd 457 o fagiau sbwriel eu casglu, yn cynnwys 59,226 o wahanol eitemau.

Ymhlith y pethau y cafwyd hyd iddyn nhw ar y traethau roedd clytiau babis, set tractor, pibell, brwsh a het menyw.

Nwyddau plastig oedd 74.7% o'r gwastraff.



HEFYD
Mwy o draethau gln yng Nghymru
28 Mai 10 |  Newyddion
Gwobr i 44 o draethau
09 Ebr 09 |  Newyddion
Traethau sl: Haf gwael i'w feio
23 Mai 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific