Mae tro arall yn stori cyfri pleidleisiau Etholiad y Cynulliad yn y gogledd wedi i gynghorwyr Sir Fflint fynnu bod pleidleisiau etholaethau'r sir yn cael eu cyfri dros nos yn hytrach na'r diwrnod canlynol. Wrth bleidleisio o blaid cynnig i'r perwyl hwn, mae'r cynghorwyr hefyd wedi dweud y dylai Swyddog Etholiad a Phrif Weithredwr y sir, Colin Everett, ddilyn trefn sy'n wahanol i weddill cynghorau'r gogledd a chynnal y cyfrif dros nos ar Fai 5. Mae'r cyngor wedi dweud na all ddweud wrth y Swyddog Etholiad sut i gyflawni ei ddyletswyddau. Yn y sir mae etholaethau Delyn ac Alyn a Glannau Dyfrdwy. Pob plaid
Y Cynghorydd Bernie Attridge, ddywedodd fod pob plaid yn ei gefnogi, gyflwynodd y cynnig gerbron y cyngor llawn brynhawn Mawrth. "Mae gwrthod gweithredu penderfyniad democrataidd y cyngor llawn yn bryder mawr i mi ac rwy'n ceisio am gyngor cyfreithiol ynglŷn â beth ddylai ddigwydd nesaf. "Mae'n bosib y byddaf yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y prif weithredwr, gan alw am ei ymddiswyddiad." Corddi Ers wythnosau mae'r ffrae am amseru'r cyfri wedi bod yn corddi - ers y cyhoeddiad y byddai swyddogion etholiadol y gogledd yn aros tan 9am fore Mai 6 cyn dechrau cyfri'r pleidleisiau. Felly ni fydd gwybodaeth lawn am ganlyniadau'r etholiad tan ddiwedd y prynhawn Gwener. Dywedodd y cyngor: "Mae'r Swyddog Etholiad, sy wedi rhoi gwybod i'r cyngor beth yw'r rhesymau am y trefniadau sy eisoes mewn grym ar gyfer yr etholiad, wedi dweud na fydd yn eu newid." Eisoes mae Swyddog Etholiad Rhanbarthol y gogledd, Dr Mohammed Mehmet, wedi wynebu galwadau gan y pedair prif blaid i newid ei feddwl a chynnal y cyfri noson y bleidlais.
|