British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Ebrill 2011, 08:23 GMT 09:23 UK
Symud 'milwr Wikileaks' i garchar newydd

Bradley Manning
Roedd Preifat Bradley Manning yn swyddog cudd-ymchwil gyda byddin America.

Bydd y milwr Bradley Manning - sy'n cael ei gadw dan glo oherwydd honiadau ei fod wedi pasio cyfrinachau milwrol i'r wefan Wikileaks - yn cael ei symud i garchar arall.

Cyhoeddodd y Pentagon y byddai'r Cymro - aeth i'r ysgol yn Sir Benfro lle mae ei fam yn dal i fyw - yn cael ei symud i garchar yn Kansas ond maen nhw wedi gwadu bod hyn oherwydd bod rhai wedi beirniadu'r amodau yn Quantico, Virginia.

Dywedodd Cwnsler Cyffredinol Adran Amddiffyn America, Jeh Johnson: "Rydym wedi penderfynu mai'r adeilad carchar newydd yn Fort Leavenworth, Kansas, yw'r lle mwyaf priodol i'r Preifat Manning."

Bu'r milwr 23 oed a aned yng Nghymru dan glo yn Quantico ers Gorffennaf 2010.

'Llym'

Mae amodau ei garcharu, sy'n cynnwys cael ei orfodi i gysgu'n noeth a chael ei gadw ar ei ben ei hun, wedi denu sylw mudiadau dyngarol fel Amnest Rhyngwladol ac Undeb Hawliau Sifil America yn ogystal â Llywodraeth Prydain.

Ym mis Chwefror dywedodd Amnest fod yr amodau'n "llym" gan annog Prydain i ymyrryd.

Yna ym mis Mawrth fe ymddiswyddodd llefarydd ar ran Llywodraeth America, Philip Crowley, wedi iddo ddweud bod triniaeth Manning yn "chwerthinllyd ac yn wrthgynhyrchiol".

Fis yn ôl aeth nifer o gefnogwyr y milwr o Sir Benfro i Lundain yn galw ar Lywodraeth San Steffan i weithredu.

Blynyddoedd?

Mae Mr Manning yn cael ei amau o ryddhau cannoedd o filoedd o ddogfennau i Wikileaks, gan gynnwys llawer oedd yn ymwneud â'r rhyfeloedd yn Irac ac Afghanistan.

Roedd hynny wedi cythruddo'r awdurdodau yn America sy wedi honni bod cyhoeddi'r dogfennau yn fygythiad i ddiogelwch y wlad.

Ychwanegodd Mr Johnson mai'r carchar yn Kansas oedd y lle gorau i'w gadw yn y cyfnod cyn y byddai achos yn ei erbyn, cyfnod allai bara am fisoedd os nad blynyddoedd.

'Gwarthus'

Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd, yn aelod o Bwyllgor Materion Tramor San Steffan, ac yn gadeirydd Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Iawnderau Dynol.

"Rwy'n falch bod yr ymgyrch i dynnu sylw at driniaeth warthus Bradley Manning yn ymddangos fel pe bai wedi dwyn ffrwyth, ac y bydd yn cael ei symud i garchar arall.

"Bydd ymgyrchwyr yn America a'r DU fodd bynnag yn parhau i gefnogi Bradley, gan fod ei garchariad yn Quantico ddim, yn ôl ei gyfreithiwr, wedi "dilyn pob agwedd safonau cyfreithiol".

"Rwyf mewn cysylltiad agos gyda'i fam a'i deulu yng Nghymru ac mae ganddyn nhw lawer o bryderon am ei les - rwyf yn rhannu'r pryderon."



HEFYD
Protestiadau 'milwr Wikileaks'
20 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific