Dyma'r bedwaredd o bum erthygl sy'n trin a thrafod maniffesto'r pedair prif blaid ar bwnc penodol. Yma mae John Walter Jones, cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, wedi bod yn edrych ar beth sydd gan y pleidiau i'w cynnig o ran yr Iaith Gymraeg.
Be sydd gan y pedair brif blaid i'w gynnig?
|
Amrywiaeth o ran hyd, lled a chywirdeb iaith. Dyna sy'n taro rhywun ar y darlleniad cyntaf. Wedyn gwahaniaeth go sylfaenol o ran creu argraff o wir ymwybyddiaeth ieithyddol - y gwahaniaeth rhwng swmp, sylwedd ac ystrydeb. Dwy blaid sy'n llwyddo i greu argraff o fod yn deall y gofynion ac yn mynd tu hwnt i'r arwynebol. Os nad yw rhai o'n gwleidyddion wedi sylweddoli bellach fod gofynion yr iaith yn amlochrog o fewn bywyd a chymdeithas, yna pa werth iddynt draethu am "annibyniaeth y Comisiynydd" neu "roi iawndal i bobl sy'n dioddef yn ariannol trwy fethiant sefydliad i gydymffurfio a'i safonau." Sicrhau'r cydymffurfiaeth ddylai fod yn nod, nid sôn am dalu am fethiant. Mae dwy o'r pleidiau yn mynd i mewn i grombil rhai o ofynion cynllunio ieithyddol amlochrog drwy sôn am yr iaith mewn cyd-destunau canolog i unrhyw dwf tu hwnt i "Gyflwyno Nod Siarter i fusnesau a fydd yn cydnabod gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg" (fel sy'n cael ei gynnig gan y Ceidwadwyr). Nid medal G(ymraeg) sydd ei angen, ond fel mae dwy blaid yn dweud (Plaid Cymru a Llafur), gweld yr iaith yn ganolog i "agweddau gwahanol o'n cymunedau" ac, yn bwysicach na dim yn "ystyriaeth ar draws pob penderfyniad yn y Llywodraeth gyda'r cyfrifoldeb am adroddiad blynyddol ar ysgwyddau'r Prif Weinidog am "gynnydd o ran yr iaith Gymraeg." Maldod arwynebol Wel ia, rhaid mynd ymlaen mewn ffydd a gobeithio y bydd tŵf! Ac mae un blaid (y Ceidwadwyr) am weld ffrwyth eu polisi yn esgor ar filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2031. Wel mi fydd hyn yn sicrhau cynulleidfa i elfen arall o bolisi'r blaid yma o "Gefnogi Eisteddfodau ledled Cymru," yn ogystal â thwf nifer gwylwyr S4C drwy gyfrwng amrywiol bolisïau o ran cefnogaeth i S4C.
Mae tair plaid am wneud Dydd Gwyl Ddewi yn ddiwrnod o wyliau
|
A dyna ni! Dau o'r cystadleuwyr yn cynnig fawr o ddim ond maldod ieithyddol lled arwynebol - o wneud Gŵyl Ddewi yn "wyliau" cyhoeddus (Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr) i "sefydlu amgueddfa filwrol i Gymru" (Ceidwadwyr)(Wel, o dan y pennawd Treftadaeth y daw yr iaith a'r amgueddfa - yno, siŵr o fod y ceir arddangosfa o greiriau Brwydr yr Iaith!) Â'r ddwy blaid arall yn dangos ymwybyddiaeth dipyn mwy aeddfed - ond drwy gyfrwng y Saesneg yn unig yn achos Llafur y cafwyd eu maniffesto ar-lein. Oes, mae gwersi ym mhobman ac mae modd i amheuon o ran gwir ymroddiad amlygu eu hunain. Mae un blaid yn credu mai gwryw fydd y Comisiynydd Iaith gan mai fel "e" y cyfeirir ato. Plaid arall eisoes yn cyplysu "BBC/S4C." Yn amlwg mae ein gwleidyddion yn gwybod mwy na ni, neu falle nad ydynt am i ni wybod popeth sydd yn yr arfaeth. Efallai yn wir mai'r lle saffaf i bawb bori yw rhwng y llinellau ac mai doethach fyddai i ni oll wylio'r gofod - a pheidio disgwyl gormod gan neb. Wedi'r cyfan, ein hiaith ni ydy hi nid eu hiaith nhw ('mond pan mae hi'n siwtio) a ni sy' bennaf gyfrifol am ei dyfodol. Mae gan y pleidiau 5 mlynedd i weithredu - beth oedd ganddynt i'w ddweud 4 mlynedd yn ôl? Pwy sy'n cofio?
Mae dadansoddiad o'r polisïau
addysg;
economi;
iechyd;
amgylchedd;
ar wefan Newyddion BBC Cymru
.
|