Fe fydd Ed Miliband yn ymweld â Chymru ddydd Mercher
|
Fe fydd buddugoliaeth i'r Blaid Lafur yn Etholiad y Cynulliad ar Fai 5 yn dangos bod 'na ddewis arall i doriadau Llywodraeth y DU yn ôl arweinydd y blaid. Roedd Ed Miliband yn ymweld â gorllewin Cymru ddydd Mercher. Dyma ei ymweliad cyntaf â Chymru yn ystod yr ymgyrch tra bod David Cameron a Nick Clegg eisoes wedi ymweld. Fe wnaeth Mr Miliband feirniadu "llywodraeth ddiofal y Ceidwadwyr a'u cynghreiriaid, y Democratiaid Rhyddfrydol." Er y byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi gwneud toriadau, dywedodd na fydden nhw wedi mynd mor bell mor fuan. 'Gwarchod' "Ddylai neb amau, mai Downing Street sydd wrth wraidd y toriadau fydd yn effeithio ar bob stryd ym Mhrydain," meddai. Fyddai llywodraeth o dan arweiniad Llafur yn y Cynulliad ddim yn gallu atal cynlluniau Llywodraeth San Steffan i leihau'r diffyg ariannol. "Ond fe fyddai'n dangos, hyd yn oed mewn amser anodd i ysgolion, ysbytai, a swyddi, fod 'na o hyd ddewis arall." Ychwanegodd mai'r rhai bregus fydd yn cael eu taro caleta' gynta ac y byddai rhaglen y glymblaid yn "dinistrio" swyddi a thyfiant economaidd. Dywedodd y byddai polisïau'r Ceidwadwyr yn creu rhwygiadau yn y gymdeithas. "Gall Gymru wneud yn well. Mae'n dangos y gallwn wneud mwy na phrotestio. Gallwn warchod." 'Y person gorau' Mae arweinydd y blaid yng Nghymru, Carwyn Jones, wedi dweud bod "mwyafrif" yn bosib yn yr etholiad. Fe ddywedodd Mr Miliband nad oes angen mwy o bwerau deddfu ar Gymru ond fe fyddai'n derbyn arweiniad gan Mr Jones. "Mae Carwyn wedi dangos mai fo yw'r person gorau i sefyll dros Gymru..." Ddydd Mercher hefyd bu arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn gwneud ei ail ymweliad â de Cymru . Yn y cyfamser mae Plaid Cymru yn ymgyrchu ar iechyd gan addo gwarchod ysbytai lleol, gan wrthod honiadau Llafur eu bod yn codi ofn ar y mater. Mae'r Ceidwadwyr yn ne orllewin Cymru yn trafod cynlluniau i greu economi mwy cynaliadwy.
|