British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Ebrill 2011, 16:52 GMT 17:52 UK
Ras feicio newydd i'r gogledd

Rhan o daith ras feicio Etape Cymru
Bydd y ras yn dechrau a gorffen yn Wrecsam ar Hydref 9 eleni

Mae ras feicio newydd 100 milltir a gynhelir yn ardaloedd Wrecsam a Sir Ddinbych yn gobeithio denu mwy na 3,500 o gystadleuwyr.

Wrth lansio ras Etape Cymru ym Mwlch yr Oernant ger Llangollen, dywedodd ei threfnwyr taw hon fyddai dim ond yr ail ras gaeëdig i gael ei chynnal ym Mhrydain.

Bydd y ras yn dechrau a gorffen yn Wrecsam ym mis Hydref a bydd y cystadleuwyr yn gorfod dringo 6,000 troedfedd (1,828 metr) wrth iddynt deithio drwy Sir Ddinbych.

Cefnogir y ras gan gynghorau Sir Wrecsam a Dinbych, Llywodraeth y Cynulliad, a Thwristiaeth Gogledd Cymru.

Gall unrhyw un gymryd rhan, boed nhw'n hen law neu'n feiciwr achlysurol
Mike Turner

Mae cynghorau Wrecsam a Sir Ddinbych wedi cytuno cau'r ffyrdd a ddefnyddir ar gyfer y ras ar Ddydd Sul Hydref 9 2011.

Cadarnhaodd Seiclo Prydeinig, y corff sy'n rheoli'r gamp ym Mhrydain, taw hon fyddai dim ond yr ail ras gaeëdig i gael ei chynnal ym Mhrydain.

Poblogaidd

Mae'r llall yn cael ei chynnal yn yr Alban a chredir fod y ras honno yn creu hyd at £1.8m i'r economi leol.

Bydd ras Etape Cymru yn cynnwys y cystadleuwyr yn dringo rhiwiau serth Bwlch yr Oernant a'r Garth.

Dywedodd trefnydd y ras, Mike Turner, fod cystadlaethau pellter hir 'ffyrdd caeedig' yn boblogaidd iawn yn Ewrop ac yn denu tua 8,000 o gystadleuwyr.

Ychwanegodd: "Yn dilyn llwyddiant seiclwyr o Brydain yng nghystadlaethau'r Gemau Olympaidd a'r Tour de France, mae mwy o bobl yn dangos diddordeb mewn cymryd rhan mewn heriau seiclo yn debyg i hon.

"Gall unrhyw un gymryd rhan, boed nhw'n hen law neu'n feiciwr achlysurol."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific