British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Ebrill 2011, 06:41 GMT 07:41 UK
Addysg: Pleidiau'n gwrthdaro

Ysgol

Mae'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur wedi bod yn ymosod ar gynlluniau ei gilydd am addysg.

Dywed y Ceidwadwyr fod Llafur wedi llywodraethu dros waethygu safonau mewn ysgolion, tra bod Llafur yn dweud y bydd y Ceidwadwyr yn gadael myfyrwyr mewn mwy o ddyled.

Mae Plaid Cymru wedi parhau i feirniadu'r modd y mae Llafur wedi delio ag addysg.

Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol bod Llafur a Plaid i'w beio am fethu ag ariannu ysgolion Cymru i'r un lefel ag yn Lloegr.

Mae profion ar ddisgyblion 15 oed mewn 67 gwlad gan y Sefydliad dros Ddatblygiad a Chydweithrediad Economaidd (OECD) wedi gosod Cymru yn 38fed am ddarllen, 40fed am fathemateg a 30fed am wyddoniaeth - yr isaf o wledydd y DU.

'Uniongyrchol'

Mynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, bod record Cymru ar addysg wedi mynd i lawr mewn 12 mlynedd o dan Llafur.

Byddai'r Ceidwadwyr yn torri cyllideb addysg Llywodraeth y Cynulliad o 12%, ond yn dweud y bydd newidiadau i'r system ariannu yn golygu mwy o arian i ysgolion.

"Byddwn yn gyrru mwy o'r arian at ysgolion yn uniongyrchol," meddai Mr Bourne, "gan mai ysgolion yw'r rhai sy'n ysbrydoli disgyblion."

Pan gyhoeddwyd Rhaglen Asesu Rhyngwladol myfyrwyr (PISA) gan yr OECD ym mis Rhagfyr, dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, bod yna "fethiannau systemig".

'Gwahaniaeth sylweddol'

Dydd Llun, dywedodd Mr Andrews - ymgeisydd Llafur yn y Rhondda - bod addysg yn "fater sy'n dangos gwahaniaeth sylweddol rhwng Llafur a'n gwrthwynebwyr Ceidwadol".

Pwysleisiodd addewidion Llafur i gadw lefel ariannu addysg 1% yn uwch na'r grant ddaw o'r Trysorlys yn Llundain ac i gadw'r lwfans cynnal addysgol.

Byddai'r Ceidwadwyr yn cyflwyno ffioedd dysgu yn debyg i'r rhai yn Lloegr, sy'n caniatáu i brifysgolion i godi hyd at £9,000 gyda sêl bendith Llywodraeth y Cynulliad, ac i gyflwyno cronfa i gynorthwyo myfyrwyr o gefndir tlotach.

Ychwanegodd llefarydd y byddai'r Ceidwadwyr yn cadw'r lwfans cynnal addysgol, ond yn ei dargedu at y myfyrwyr oedd ei angen fwyaf.

Ychwanegodd Leighton Andrews: "Rwy'n credu bod tystiolaeth ar lawr gwlad fod pleidlais y Ceidwadwyr yn aros yn gyson ac, wrth gwrs, un elfen siomedig o'r ymgyrch etholiadol hyd yma yw gweld cymaint o amser y mae Plaid Cymru yn ei dreulio yn ymosod ar Lafur."

'Rôl flaenllaw'

Mewn cynhadledd newyddion yng Nghaerdydd, parhau i ymosod ar record Llafur ar addysg wnaeth Plaid Cymru.

Mynnodd yr ymgeisydd yng Ngheredigion, Elin Jones, nad "codi bwganod" oedd ymosodiadau ar record Llafur, ond pwysleisio'r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid ar bump o feysydd polisi: ysbytai, trafnidiaeth, busnesau bach, ysgolion a darlledu.

Fel enghraifft, soniodd ymgeisydd Plaid Cymru i ranbarth y gogledd, Heledd Fychan, am fygythiad gan Mr Andrews ym mis Chwefror i gau ysgolion oedd yn methu os oedd yn credu nad oedd modd adfer y sefyllfa.

"Nid dewis rhwng perfformiad a chau yw hi," meddai Ms Fychan. Honnodd fod un ysgol o bob tair yn tanberfformio, ac y byddai Plaid yn gorchymyn y corff arolygu ysgolion, Estyn, i chwarae rôl fwy blaenllaw wrth fonitro a gwella safonau.

'Brwydr ffug'

Ond dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod Llafur a Phlaid Cymru yn cynnal "brwydr eiriol ffug", a bod y partneriaid yn y glymblaid ym Mae Caerdydd yn gyfrifol fod cynghorau Cymru yn gwario cyfartaledd o £604 yn llai ar bob disgybl nag yn Lloegr.

Wrth ymateb i feirniadaeth bod ei phlaid hi, sy'n rhan o glymblaid yn llywodraeth San Steffan, wedi cynyddu ffioedd dysgu, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, mai Llafur a gyflwynodd ffioedd yn y lle cyntaf.

Dywedodd fod ei phlaid yn y cynulliad wedi gwrthwynebu ffioedd ac y byddai'n talu'r gwahaniaeth oherwydd ffioedd uwch i fyfyrwyr o Gymru.

"Gadewch i ni fod yn glir," meddai Ms Williams, "ni all ein myfyrwyr tlotaf obeithio mynd i brifysgol yng Nghymru oherwydd methiant y llywodraeth Llafur/Plaid i gael ein system addysg gynradd ac uwchradd yn iawn.

Ychwanegodd Ms Williams y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn "cau'r bwlch ariannu a sicrhau y byddai myfyrwyr o Gymru yn cael y cyfle i fynd i brifysgol yn y lle cyntaf."

Mae'r blaid yn addo cynyddu'r cyllid i blant o gefndiroedd difreintiedig o £2,500 i bob disgybl.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific