British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Ebrill 2011, 07:13 GMT 08:13 UK
Gwobr gelf yn ehangu mynediad

Oriel Mostyn, Llandudno
Bydd un artist yn arddangos gwaith yn Mostyn, Llandudno

Wrth gyhoeddi'r gwahoddiad am enwebiadau eleni, mae gwobr gelf Artes Mundi yn datgelu datblygiadau i'r wobr ar gyfer 2012.

Gwobr Artes Mundi yw'r wobr gelf fwyaf yn y DU, gyda'r artist buddugol yn derbyn £40,000, a'r pump arall ar y rhestr fer yn derbyn £4,000.

Ond mae'r wobr - sy'n cael ei chynnig bob dwy flynedd ers 2002 - wedi ffurfio partneriaeth newydd gydag Oriel Mostyn yn Llandudno, fydd yn rhoi cyfle newydd i bobl gogledd Cymru gael gweld peth o'r gwaith.

Bydd enwebiadau ar gyfer Artes Mundi 5 yn cael eu derbyn rhwng Ebrill 19 a Mehefin 26 eleni.

Fe fydd dau guradur rhyngwladol yn dewis rhestr fer o chwe artist ar gyfer arddangosfa'r wobr ym mis Medi 2012, sydd yn wahanol i'r pedair arddangosfa gynta' a gynhaliwyd yn y gwanwyn.

10 mlynedd

Prif weithredwr Artes Mundi yw Ben Borthwick.

"Drwy symud Artes Mundi 5 i'r hydref, bydd yn ymuno gyda chyfres o ddigwyddiadau celf weledol ryngwladol o bwys sy'n digwydd yn y cyfnod yna," meddai.

"Mae'r rheini'n cynnwys Gwobr Turner, Ffair Gelf Frieze a Gwobr Eilflwydd Lerpwl.

"Mae hyn yn gyd-destun priodol i Artes Mundi ddathlu ei ddengmlwyddiant."

Hanner ffordd drwy'r arddangosfa ym mis Tachwedd 2012, fe fydd panel o feirniaid yn dewis enillydd Artes Mundi 5.

Cynulleidfa'r gogledd

Datgelodd Mr Borthwick hefyd fod y wobr wedi ffurfio partneriaeth gydag Oriel Mostyn yn Llandudno.

Yn y dyfodol, bydd un o'r artistiaid ar y rhestr fer yn cyflwyno arddangosfa unigol o'u gwaith y flwyddyn ar ôl i'r wobr gael ei chyflwyno.

"Mae'r bartneriaeth gyda Mostyn yn ein galluogi i ehangu mynediad Artes Mundi i gynulleidfaoedd y gogledd," ychwanegodd Mr Borthwick.

"Mae'r wobr yn cydnabod cyrhaeddiad arbennig i waith artistiaid, ond mae'r cyfle newydd yma i gynnig arddangosfa unigol hefyd yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu artistiaid."

Dywedodd Cyfarwyddwr Mostyn, Martin Barlow: "Mae gweld Artes Mundi yn gweithio gydag orielau yn ddatblygiad arwyddocaol i gelf weledol yng Nghymru.

"Mae Mostyn yn edrych ymlaen yn fawr at greu prosiectau ar y cyd gydag Artes Mundi yn 2013, ac yn ei weld fel dechrau partneriaeth bwysig fydd yn esblygu dros dymor hir."

Bydd prif arddangosfa Artes Mundi 5 yn cael ei osod mewn 800 metr sgwâr o orielau yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol Cymru o dan do'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Enillydd gwobr Artes Mundi yn 2010 oedd Yael Bartana, a fydd hefyd yn cynrychioli Gwlad Pwyl yng ngŵyl eilflynyddol y Venice Biennale yn 2011.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific