Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas fod etholwyr yn disgwyl cael y canlyniadau dros nos
|
Mae'r dyn sy'n gyfrifol am Etholiad y Cynulliad yn y gogledd, Mohammed Mehmet, wedi gofyn i wleidyddion roi'r gorau i feirniadu ei benderfyniad i beidio â chyfri pleidleisiau'r gogledd dros nos. Roedd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi cyhuddo swyddogion y gogledd a'r Comisiwn Etholiadol o "fethu â gweithredu er budd etholwyr". Dyw pleidleisiau rhanbarth gogledd Cymru ddim yn cael eu cyfri tan 9am fore trannoeth. Mae'r pedair rhanbarth arall yn dechrau cyfri' cyn gynted ag y bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 10pm nos Iau, Mai 5. Mewn e-bost mae'r Dr Mehmet, Swyddog Etholiadol Rhanbarthol Gogledd Cymru, wedi dweud: "Fe garwn i ofyn i wleidyddion roi'r gorau i'r pwysau. "Mae rhai ohonon ni'n gallu delio â hyn ond mae'n effeithio ar rai o'r staff iau a rhaid i ni ofalu am eu hiechyd a'u lles." Yn ôl y Comisiwn Etholiadol mae amseru'r cyfri' yn fater i'r swyddogion etholiadol. Mae 13 o 60 o seddi'r Cynulliad yn rhanbarth gogledd Cymru, sy'n golygu na fydd modd gwybod beth yw canlyniad yr etholiad tan brynhawn dydd Gwener, Mai 6. Dywedodd Yr Arglwydd Elis-Thomas fod adolygiad y Comisiwn o etholiadau 2007 wedi dweud y dylai amseru'r cyfrif ddigwydd "mor gynnar â phosib".
|