British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 15 Ebrill 2011, 15:49 GMT 16:49 UK
Twyll: Cydlynydd yn gwadu cyhuddiadau

Miriam Beard
Miriam Beard oedd cydlynydd cynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc

Mae cyn gydlynydd cynllun a sefydlwyd i adfywio un o stadau tai mwyaf difreintiedig Cymru wedi pledio'n ddieuog i 13 cyhuddiad yn ei herbyn.

Ymddangosodd Miriam Beard oedd yn gyfrifol am gynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc yn Wrecsam, gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug brynhawn Gwener.

Mae'r ddynes 55 oed o Henllan yn sir Ddinbych yn wynebu cyhuddiadau o gadw dros £50,000 o arian y cynllun i'w hun neu ei mab.

Gwadodd ei gŵr James Beard wyth cyhuddiad a phlediodd ei mab, Darrel Kelly o Fanceinion, yn ddieuog i chwe chyhuddiad.

Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Bydd yr achos yn dechrau ar Hydref 24.



HEFYD
Twyll: Tri o flaen eu gwell
01 Ebr 11 |  Newyddion
Twyll: Cydlynydd gerbron llys
05 Ion 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific