British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 16 Ebrill 2011, 11:17 GMT 12:17 UK
'Buddsoddwch ar unwaith'

Clwb Pl-droed Wrecsam
Mae trafodaethau yn parhau gyda phrynwyr posib

Mae menyw fusnes wedi dweud mai'r unig ffordd i achub clwb yw bod ymddiriedolaethau'r cefnogwyr yn buddsoddi £378,000.

Ddydd Gwener fe gafodd Clwb Pêl-droed Wrecsam Orchymyn Dirwyn i Ben oddi wrth y Swyddfa Gyllid a Thollau.

Mae datganiad ar wefan y clwb wedi dweud bod dyled y clwb "ychydig yn llai na £200,000".

Dywedodd y clwb, sy'n parhau ar werth, fod angen torfeydd o 4,000 er mwyn goroesi.

Fis diwethaf dywedodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam eu bod yn gweithio ar gynllun i brynu'r clwb mewn cynnig ar y cyd â'r fenyw fusnes Stephanie Booth.

Pythefnos

Mae Ms Booth wedi dweud y byddai cynnig llawn yn barod o fewn pythefnos.

"Yr unig ffordd i achub y clwb yw bod ymddiriedolaethau'r cefnogwyr yn buddsoddi £378,000 ar unwaith.

"Mae cannoedd o gefnogwyr wedi codi'r arian er mwyn buddsoddi yn y clwb.

"Os na fyddwn ni'n cymryd camau, fe fydd y clwb yn dirwyn i ben."

Dywedodd y clwb: "Fe garen ni roi sicrwydd fod y perchnogion presennol yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol y clwb.

"Mae'r hyn y mae'r Swyddfa Gyllid a Thollau wedi ei wneud yn siomedig ac yn rhwystredig iawn oherwydd maen nhw wedi gwrthod ein cynnig dros gyfnod o amser i setlo'r mater.

'Sawl cynnig'

"Ond mae'r clwb yn cydnabod eu bod nhw wedi gadael i'r sefyllfa ddirywio ... serch hynny, rydyn ni wedi awgrymu sawl cynnig er mwyn datrys y sefyllfa."

Dywedodd Ms Booth na fyddai'n cefnu ar y sefyllfa ac mai'r nod fyddai "achub y Cae Ras ar gyfer pobl Wrecsam".

"Mae'r clwb yn werthfawr ar gyfer yr holl gymuned, nid yn unig y 3,000 o gefnogwyr pêl-droed."

Dywedodd y clwb fod trafodaethau yn parhau â phrynwyr posib.



HEFYD
Wrecsam: Tro arall yn y stori
15 Maw 11 |  Newyddion
Dau gais posib i brynu clwb
26 Chwef 11 |  Newyddion
Cefnogwyr yn trafod i brynu clwb
23 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific