Mae 8.6% o weithlu Cymru yn ddi-waith
|
Mae'r pleidiau gwleidyddol wedi amlinellu eu cynlluniau i sicrhau gwaith i bobl ifanc os ydyn nhw'n ennill yr etholiad fis Mai. Ym maniffesto'r pedair prif blaid mae cynlluniau i greu swyddi. Ar draws Prydain, mae miliwn o bobl ifanc yn ddi-waith. Ac mae'r ffigyrau diweddaraf am nifer y bobl ifanc ddi-waith yn dweud bod 22.3% heb swydd yn y flwyddyn hyd at Fedi 2010 sy'n uwch na'r 19.1% ar draws Prydain. Hyfforddi Wedi clymbleidio ers 2007 mae Llafur a Phlaid Cymru wedi dadlau'n chwyrn am bwy sy'n gyfrifol am ymateb ei llywodraeth i'r dirwasgiad. Dywedodd Vaughan Gething, ymgeisydd Llafur yn Ne Caerdydd a Phenarth, mai Llafur oedd yn gyfrifol am gynlluniau ProAct a ReAct. Roedd ProAct yn rhoi cyllid i gwmnïau oedd yn cael trafferthion yn y wasgfa economaidd i hyfforddi eu staff. Roedd ReAct yn rhoi help i bobl oedd wedi colli eu swydd. Dywedodd fod Llafur wedi cyflwyno cynlluniau arloesol "sicrhaodd bod 12,000 o bobl dal mewn gwaith heddiw, fyddai fel arall wedi colli eu swydd. "Os yw Plaid Cymru yn cymryd y clod am ProAct a ReAct, mae fel teithiwr yn cymryd y clod am yrru bws," meddai. Dadlau polisi Os y byddan nhw'n ennill yr etholiad, mae Llafur yn addo sefydlu cronfa £25m i greu swyddi i bobl dan 25 oed yn y sector gyhoeddus a'r sector wirfoddol. Dywedodd Plaid Cymru fod Llafur "yn gwneud honiadau hurt am record Plaid mewn llywodraeth er mwyn osgoi trafod eu record nhw o fethiant dros 12 mlynedd." Dywedon nhw fod plant yng Nghymru "ar ei hôl hi am fod Llafur wedi cam-reoli ein system addysg." Mae cyfarwyddwr polisi'r blaid, ei hymgeisydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Nerys Evans, wedi dweud bod cynlluniau Plaid Cymru i greu hyd at 50,000 o swyddi a hyd at 30,000 o brentisiaethau. Y syniad yw creu cwmni nid-er-elw i godi arian i fuddsoddi mewn cynlluniau adeiladu i'r sector gyhoeddus. Dywedodd fod gan Blaid Cymru gynlluniau hyfforddi-yn-y-gwaith ac i gyd-weithio â chynghorau lleol i fuddsoddi £10m i hyfforddi pobl ifanc. 'Pwnc llosg' Dywedodd ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghanol Caerdydd, Nigel Howells: "Yn amlwg, mae'r nifer o bobl ifanc ddi-waith yn parhau'n bwnc llosg yng Nghymru, a dyna pam bod y Democratiaid Rhyddfrydol eisiau cynnig grantiau hyfforddi o £2,000 i fusnesau gyflogi pobl ifanc ddi-waith. "Bydd hyn yn annog busnesau i gyflogi pobl ifanc ac yn caniatáu iddyn nhw ddatblygu sgiliau sy'n hanfodol i'n heconomi ni." Dywedodd y Ceidwadwyr y bydden nhw'n cael gwared ar drethi busnesi gwerth hyd at £12,000, gyda threthi'n cynyddu'n raddol i fusnesau gwerth £12,001 to £15,000 - addewid mae pleidiau eraill yn dweud na all y Cynulliad ei fforddio. Byddai llywodraeth Dorïaidd yn y Cynulliad, medden nhw, yn golygu bod ysgolion yn creu mentrau cymdeithasol er mwyn annog mwy o bobl ifanc i fod yn entrepreneuriaid. Mae maniffesto'r blaid yn dweud y dylai cyfoeth Cymru fod yn 85% o gyfartaledd y DU erbyn 2020 a 100% erbyn 2030.
|