British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 16 Ebrill 2011, 08:28 GMT 09:28 UK
Protest yn erbyn gwaharddiad

tywod mewn sip morfil
Fe wnaeth yr elusen wahodd plant yn ddiweddar i helpu creu dau gerfiad o'r tywod mewn sip morfil.

Mae perchnogion yn protestio ddydd Sadwrn yn erbyn bwriad cyngor i wahardd cŵn o ddechrau mis Mai tan ddiwedd mis Medi.

Nod y cyngor yw gwahardd yr anifeiliaid ar y traeth, y promenâd a'r maes parcio yn y Parrog yng Ngwdig ger Abergwaun.

Eisoes mae rhai o'r protestwyr wedi dweud y byddan nhw'n cael eu cosbi am fod eraill yn camymddwyn.

Yn y gaeaf bydd cŵn ar dennyn ar y promenâd ac yn y maes parcio ond yn cael eu gwahardd ar y traeth.

'Cyfrifol'

Dywedodd un o'r protestwyr, Cliff Benson: "Mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n gyfrifol.

"Ar ôl camu o'r llong fferi o'r Iwerddon hwn yw'r cyfle cyntaf i ollwng y ci o'r tennyn."

Dywedodd Mr Benson, sy'n rheoli elusen Ymddiriedolaeth y Môr, nad oedd baw cŵn yn broblem fawr ar y traeth.

Fe wahoddodd yr elusen blant yn ddiweddar i helpu creu dau gerfiad tywod ar siâp morfil.

"Fydden ni ddim wedi mynd â nhw yno os oedden ni'n credu y byddai problem gyda'r baw cŵn".

Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal gan Gyngor Penfro ar ran cyngor y dref.

Mae cŵn wedi eu gwahardd o 11 o draethau yn y sir.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar Fai 5.



HEFYD
Perchennog yn ennill achos apl
10 Rhag 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific