Ers i'r dirwasgiad byd eang daro, mae sefyllfa'r economi wedi bod yn fwy o bwnc llosg nag erioed.
Yn dilyn toriadau i gyllideb y Cynulliad, mae pob plaid yn ymladd yr etholiad yn honi mai nhw sy'n gwybod orau sut i ddatrys problemau economaidd Cymru ar lai o arian.
Dadansoddiad Ellis Roberts
Pwy bynnag fydd yn llywodraethu wedi Mai 5, mi allan nhw ddisgwyl y bydd cynnal yr economi'n dipyn o her dros y pum mlynedd nesaf.
Gan fod dros un ymhob pedwar o bobol Cymru'n gweithio yn y sector gyhoeddus (e.e. ysgolion, ysbytai, cynghorau sir) mi allai toriadau yng nghyllideb y Cynulliad olygu y bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn.
Mae torri cyfraddau busnes yn bwnc trafod yn ystod yr ymgyrch - ac yn sicr mae gan y Cynulliad y grym i wneud hynny - ond mae torri trethi'n golygu llai o arian i'w wario ar bethau eraill.
Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cymru oedd yr unig un o genhedloedd y Deyrnas Gyfunol welodd gynnydd yn nifer y di-waith dros fisoedd y gaeaf - a'r cyfanswm bellach yn 126,000.
Ond mae'n rhaid cofio mai cyfyngedig ydy grymoedd y Cynulliad ym maes yr economi - does ganddyn nhw ddim rheolaeth dros y rhan fwyaf o drethi - ac allan nhw ddim gorfodi'r banciau masnachol i fod yn fwy hael wrth fenthyg chwaith.
Ond mae pob plaid yn cytuno bod gwella sgiliau pobol Cymru'n allweddol - ac mi fydd hynny wastad yn flaenoriaeth - waeth pwy fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf.
Pan aeth Newyddion BBC Cymru i holi perchnogion busnes, fe ddywedon nhw mai'r pryder mwyaf oedd trethi busnes rhy uchel a diffyg swyddi i bobl ifanc.
Beth yw addewidion y pleidiau?
Llafur
Creu cronfa swyddi a hyfforddiant i bobl ifanc.
Ymestyn cyfleoedd am brentisiaethau.
Plaid Cymru
Creu cwmni Adeiladu dros Gymru i fuddsoddi mewn ysbytai, ysgolion, tai a thrafnidiaeth.
Creu Bonws Busnesau Bach er mwyn sicrhau benthyciadau i fusnesau bach.
Ceidwadwyr
Cael gwared ar drethi busnes i bob busnes bach.
Creu parthau menter i hyrwyddo adfywiad economaidd.
Democratiaid Rhyddfrydol
Cynnig £2,000 i gwmnïau i hyfforddi staff ifanc sydd wedi bod yn ddi-waith.
Sefydlu Rhaglen Arloesi i fuddsoddi yn isadeiledd Cymru i greu economi ffyniannus.
Am fwy o wybodaeth am bolisiau'r pleidiau, edrychwch
yma
.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.