British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Ebrill 2011, 13:19 GMT 14:19 UK
Achos Porthmadog: Iestyn Davies yn euog

Iestyn Davies
Gwelwyd Iestyn Davies ar gamera cylch cyfyng yn gadael ei fflat yn oriau mân bore Sadwrn

Yn Llys y Goron Caernarfon fe gafodd dyn 54 oed o Borthmadog ei garcharu am oes am lofruddio Ffion Wyn Roberts.

Roedd Iestyn Davies wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Cafodd corff y weithwraig ofal 22 oed ei ganfod mewn ffos ddiwrnod ar ôl iddi fethu â dychwelyd ar ôl noson allan yn Nhremadog ar Ebrill 9 2010.

Roedd hi wedi boddi ac wedi cael ei thagu.

Ar ddiwedd achos wnaeth bara am saith wythnos bu'r rheithgor yn ystyried eu dyfarniad am dros 21 awr.

Cafwyd dyfarniad o fwyafrif 10-2.

'Peryglus iawn'

Dydd Gwener dywedodd y barnwr y byddai'n fodlon derbyn rheithfarn gan fwyafrif yr aelodau, a dyna gafwyd am 2pm brynhawn Llun.

Ffion Wyn Roberts
Cafwyd hyd i gorff Ffion Wyn Roberts mewn ffos ym Mhorthmadog

Cafodd Davies ei ddedfrydu i garchar am oes, gyda'r barnwr Mr Ustus Lloyd Jones yn gosod lleiafswm o 25 mlynedd cyn y bydd yn cael gwneud cais am barôl.

Wrth gyhoeddi'r ddedfryd, dywedodd y barnwr fod Iestyn Davies "yn ddyn peryglus iawn, craff a chyfeiliornus".

Ychwanegodd: "Rwy'n siŵr fod cymhelliad rhywiol i'r drosedd hon, ac mae'n rhaid bod hynny wedi gwaethygu'r dioddefaint i Ffion.

"Fe'ch cafwyd yn euog ar dystiolaeth gref - roedd hon yn drosedd ffiaidd a gymerodd fywyd ifanc mewn modd ofnadwy."

Dywedodd fod Ffion yn darged hawdd am ei bod wedi meddwi.

"Roedd yn gyd-ddigwyddiad dychrynllyd bod llwybrau'r ddau ohonoch wedi croesi, ac ar fympwy fe welsoch chi'ch cyfle a'i gymryd," ychwaengodd.

Fideo'r heddlu o symudiadau olaf Ffion Wyn Roberts



HEFYD
Porthmadog flwyddyn wedi'r llofruddiaeth
18 Ebr 11 |  Newyddion
Barnwr: 'Byddwch yn ddiduedd'
11 Ebr 11 |  Newyddion
Achos: Gwadu dweud celwydd
04 Ebr 11 |  Newyddion
Diffynnydd yn rhoi tystiolaeth
01 Ebr 11 |  Newyddion
Diffynnydd 'wedi ymosod o'r blaen'
31 Maw 11 |  Newyddion
Teclynnau clustfeinio wedi eu gosod
30 Maw 11 |  Newyddion
Llys yn clywed galwadau 999
28 Maw 11 |  Newyddion
DNA yn 'cyfateb yn rhannol'
14 Maw 11 |  Newyddion
Llys yn clywed am arestio tad a mab
08 Maw 11 |  Newyddion
Achos Ffion: Galwadau ei brawd
07 Maw 11 |  Newyddion
Llys: Cyswllt DNA â'r diffynnydd
03 Maw 11 |  Newyddion
Llys: 'Cael gwared â'r dystiolaeth'
02 Maw 11 |  Newyddion
Achos llofruddiaeth Ffion yn cychwyn
02 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific