Dywedodd y blaid y byddan nhw'n cywiro'r fersiwn arlein
|
Llafur yw'r drydedd blaid o fewn tridiau i gyhoeddi maniffesto llawn gwallau. Yng nghornel uchaf pob yn ail dudalen mae cyfeiriad at "Maniffesto Llanfur Cymru" tra bod pob pennod yn "bennawd". Mae brawddeg gyntaf cyfarchiad arweinydd Llafur, Carwyn Jones, yn cyfeirio at ei hun fel "Prif Weinidog Cymru Llywodraeth". Ac yn ôl paragraff neges Ysgrifenydd yr Wrthblaid, Peter Hain: "Ar 5 Mai, pleidleisiwch cornel Lywodraeth Llafur Cymru i sefyll dros Gymru." Yn eironig, yn y bennod olaf tra'n trafod yr iaith Gymraeg, maen nhw'n dweud "Mae gan Lafur enw da yn cofnodi a diogelu'r iaith Gymraeg." 'Dysgu gwers' O gyfieithu'r fersiwn Saesneg y bwriad, mae'n debyg, oedd dweud "Mae gan Lafur enw da yn gwarchod a hyrwyddo'r iaith Gymraeg." Mae gwallau eraill yn y maniffesto. Dywedodd llefarydd ar ran Llafur ei bod wedi "dysgu eu gwers." "Ymddengys nad yw typo-gate yn mynd i ddiflannu'n rhy fuan. "Mae hi siŵr o fod yn rhy hwyr i awgrymu Comisiwn Traws-bleidiol ar brawfddarllen ond rydym ni wedi dysgu'n gwers. "Tra'n bod ni, wrth gwrs, yn difaru na sylwon ni ar y gwallau, dydy hynny ddim yn newid y ffaith bod hon yn rhaglen lywodraethol gref. "Fe fyddwn ni'n cywiro'r gwallau ar-lein."
|