Mae'r blaid am weld newid rheolaeth ym Mae Caerdydd
|
Mae'r Ceidwadwyr yn disgrifio'u maniffesto fel "rhaglen lywodraethol uchelgeisiol" i "adeiladu cenedl." Roedd Nick Bourne, arweinydd y blaid yn y Cynulliad, a Cheryl Gillan yr Ysgrifennydd Gwladol yn lansio'r maniffesto 'Llais Newydd i Gymru' yn Venue Cymru, Llandudno brynhawn Gwener. Dywedodd Mr Bourne y byddai ei blaid yn barod i glymbleidio â'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi'r etholiad. Ychwanegodd bod rhai meysydd yn y maniffesto "sydd efallai yn mynd â ni i ffwrdd o le'r ydyn ni'n gyfforddus" a bod diogelu annibynniaeth S4C o ran strwythur a chyllido yn bwysig. "Rydym ni'n amlinellu beth fyddai blaenoriaethau rhaglen lywodraethol y Ceidwadwyr am bedair blynedd," meddai David Melding, awdur y maniffesto. 'Cynghreiriaid' Dywedodd "na all democratiaeth yng Nghymru fod yn gyflawn heb ddewis amgen i Lafur" a bod y maniffesto yn llawn polisïau allai blesio cynghreiriaid posibl ar ôl yr etholiad.
 |
ADDEWIDION Y CEIDWADWYR
Gwarchod y gwasanaeth iechyd am y pedair blynedd nesaf
Buddsoddi mewn addysg i roi mwy o rym i athrawon, rhieni a llywodraethwyr
Diddymu trethi busnes i fusnesau bach
Cyflwyno cerdyn buddion y lluoedd arfog
Creu 'llain las' i atal datblygu ar dir sydd mewn perygl o lifogydd
Dileu tlodi plant erbyn 2020
Gwarchod pasys bws am ddim a phresgripsiynau am ddim i'r henoed
Hybu'r Gymraeg gyda marc siarter i fusnesau sy'n hyrwyddo defnydd ohoni
|
"Rydym ni'n ffyddiog bod pobl eisiau gweld dewis arall - rhyw gyfuniad o Blaid Cymru a ni," meddai. "Mae llawer yn y maniffesto sy'n dweud wrth Blaid Cymru bod llawer o adeiladu cenedl yn gallu cael ei wneud mewn partneriaeth." O ran yr iaith, mae'r Ceidwadwyr yn gobeithio bydd miliwn o Gymry'n siaradwyr Cymraeg erbyn 2031 a 1.5 miliwn - hanner y boblogaeth - yn siaradwyr Cymraeg erbyn 2051. "Beth yw Cymru ddwyieithog?" meddai Mr Melding. "Dylai'r mwyafrif o bobl Cymru gael rhywfaint o allu yn y Gymraeg. "Rhaid i ni osod targedau mwy uchelgeisiol, mae eisiau cynllun adfer yr iaith Gymraeg - fel bod parhad yr iaith yn sicr, ei bod yn dod yn iaith gyffredin i bawb ac yna'n iaith gymunedol. "Mae'n rhywbeth mawr i'r genedl." Polisïau eraill allai apelio at Blaid Cymru yw gwneud S4C yn atebol i'r Cynulliad a San Steffan gyda'i gilydd ac y dylai'r Cynulliad gael rôl yn y ffordd mae'r sianel yn cael ei weithredu, ac mae hefyd addewid i edrych eto ar y ffordd mae Cymru'n cael ei ariannu - "rhyw fath o Holtham+." Dywedodd Mr Melding bod angen ystyried pwerau trethi i'r Cynulliad - "Mae cwestiwn yn codi o ran atebolrwydd." 'Prifysgolion ar lwyfan y byd' Polisi allai fod yn faen tramgwydd yw'r ymrwymiad i ddilyn San Steffan o ran ffioedd myfyrwyr. "Fyddem ni ddim yn parhau gyda'r grant," meddai Mr Melding. Ar hyn o bryd, fydd ffioedd myfyrwyr o Gymru ddim yn codi i hyd at £9,000 y flwyddyn yn 2012 fel y byddan nhw'n Lloegr, mae'r Llywodraeth yn talu'r gwahaniaeth rhwng y ffioedd presennol. "Rhaid i bobl ystyried beth yw'r ateb gorau, mae angen i fyfyrwyr fod yn rhan o'r penderfyniad yma," meddai Mr Melding. Dywedodd bod y Ceidwadwyr yn awyddus i bawb sy'n dymuno cael addysg brifysgol i wneud hynny, cyhyd â'u bod yn gymwys. Maen nhw eisiau i Brifysgol Caerdydd fod yn y 50 prifysgol gorau yn y byd, a'r mwyafrif o brifysgolion Cymru fod yn y 200 gorau. "Rydym ni eisiau gosod safonau uchelgeisiol," meddai Mr Melding. "Rhaid i'n prifysgolion ni fod ar lwyfan y byd. "Mae angen i fyfyrwyr gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu haddysg. "Rydyn ni eisiau rhoi'r cyfle iddyn nhw i astudio mewn prifysgolion sy'n cael eu hedmygu'n rhyngwladol."
|