British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Ebrill 2011, 06:30 GMT 07:30 UK
Ffioedd gwahanol 'yn wallgof'

Yr Athro Teresa Rees
Mae'r Athro Teresa Rees o blaid datganoli ond yn dweud fod y system bresennol yn wallgof

Dylid cyflwyno pecyn cyson o ffioedd ac ysgoloriaethau i brifysgolion ar draws y DU yn ôl un ymgynghorydd i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd yr Athro Teresa Rees bod ffioedd gwahanol am addysg brifysgol ar draws y DU yn "wallgof".

Ychwanegodd y dylid cael penderfyniad strategol ar ffioedd ac ysgoloriaethau sydd ar gael i bob myfyriwr.

Mae'r Athro Rees wedi arwain dau gomisiwn ar addysg uwch i Lywodraeth y Cynulliad, ac mae hi o blaid datganoli.

Llif ar draws ffiniau

Ond dywedodd cyn ddirprwy is-ganghellor Prifysgol Caerdydd ac athro Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y brifysgol bod y system bresennol o ffioedd gwahanol yn rhy gymhleth.

Dywedodd: "Ar hyn o bryd mae'n anhygoel o gymhleth - os ydych yn fyfyriwr o Ogledd Iwerddon ac am astudio yn Lloegr, mae'r hyn yr ydych yn gymwys amdano yn wahanol iawn i fyfyriwr o Loegr sydd am astudio yn yr Alban.

"Dyw hyn ddim yn feddwl strategol, aeddfed iawn am addysg uwch yn y DU, a dwi'n meddwl ei fod yn wallgof - rhaid i ni gofio am y llif ar draws ffiniau.

"Mae hyn yn effeithio ar Gymru yn fwy na'r un wlad arall oherwydd dywedwch fod hanner myfyrwyr Cymru yn mynd i Loegr a hanner y myfyrwyr yng Nghymru yn dod o Loegr gall unrhyw drefn wahanol effeithio ar y llif rhwng y ddwy wlad a'i newid yn gyflym iawn."

Ychwanegodd yr Athro Rees y gallai myfyriwr o gartref difreintiedig yng Nghymru dderbyn y cymhorthdal o'r Cynulliad ac yna mynd i brifysgol yn Lloegr sy'n cynnig ysgoloriaethau hael.

Ond byddai myfyriwr tebyg o Loegr yn colli ar y ddau gyfri.

Athrawon

Enghraifft o hyn, medd yr Athro Rees, oedd pan gyflwynwyd taliad arbennig er mwyn denu athrawon newydd i Loegr.

Arweiniodd hyn at broblem yng Nghymru wrth i athrawon oedd newydd gymhwyso fynd dros y ffin i gael yr arian ychwanegol.

Mae'n credu y dylid bod cytundeb ar draws y DU ynglŷn â faint y gall prifysgolion godi yn y dyfodol os ydyn nhw am oroesi a ffynnu.

O 2012, bydd prifysgolion yng Nghymru a Lloegr yn medru codi hyd at £9,000 mewn ffioedd, ond bydd myfyrwyr o Gymru yn cael cymhorthdal ble bynnag y byddan nhw'n astudio.

Yng Ngogledd Iwerddon, gall y ffioedd godi i £6,000.

Mae tair o'r pedair prif blaid yn yr Alban wedi gwrthod codi tal gan fyfyrwyr o'r Alban am eu cyrsiau, ond bydd rhaid i brifysgolion yr Alban lenwi'r bwlch ariannol o £155 miliwn.

Mae hynny'n golygu y bydd rhaid i ba bynnag blaid fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf yno ar ôl Mai 5 yn gorfod naill ai newid y system neu ddod o hyd i doriadau mewn lleoedd eraill.



HEFYD
Llai o leoedd mewn prifysgolion
18 Maw 11 |  Newyddion
£50m o Gymru i brifysgolion Lloegr
11 Chwef 11 |  Newyddion
Llai o Gymry'n mynd i brifysgol
21 Ion 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific