British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Ebrill 2011, 07:21 GMT 08:21 UK
Gwylio'r gwyddweilch drwy we gamera

Gwyddwalch wedi nythu yn ne Cymru

Mae gwe-gamera wedi cael ei osod mewn nyth yn ne Cymru ar ôl i aderyn prin iawn nythu yn yr ardal.

Dim ond tua 500 o barau o'r gwyddwalch sy'n bodoli yn y DU.

Mae un pâr wedi gwneud eu cartref yn Fforest Cwmcarn ger Casnewydd.

Er nad ydi'r Gymdeithas Adar, yr RSPB, yn nodi union leoliad y nyth mae modd gwylio'r adar drwy'r gwe gamera.

Mae hyn er mwyn atal potswyr.

Mae'r adar wedi dodwy pedwar wy yn y nyth.

'Profiad arbennig'

Fe wnaeth yr adar gyrraedd de ddwyrain Cymru yn gynharach yn y mis ac fe fydd modd i'r ymwelwyr wylio'r nyth tan ddiwedd mis Awst gyda digon o gyfle i wylio'r cywion yn datblygu wedi i'r wyau ddeor.

"Rydym wedi gweld yr iâr a'r ceiliog yn y nyth ac yn dodwy'r wyau bach glas," meddai Laura Reynolds o RSPB Cymru.

"Gyda chyn lleied yn magu yn y DU mae gweld y rhain mor agos drwy'r gwe-gamera yn brofiad arbennig iawn.

"Rydym yn edrych ymlaen at addysgu ymwelwyr am gyflwr yr adar yma."

Gyda llai o fforestydd ym Mhrydain fe wnaeth y gwyddweilch ddiflannu erbyn diwedd y 1800au.

Mae'r sefyllfa ar gynnydd erbyn hyn ym Mhrydain.

Dywedodd Michael Owen, rheolwr Fforest Cwmcarn, bod y staff yn y ganolfan yn "falch iawn" o ganfod yr adar prin yma yn nythu ar y safle.

"Mae'r RSPB, mewn cydweithrediad gyda Chomisiwn Fforestydd Cymru a Chyngor Caerffili, yn gallu trosglwyddo lluniau i'r ganolfan ymwelwyr.

"Dyma'r lle gorau i wylio'r adar wrth iddyn nhw fagu teulu."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific