Petai'r cais yn cael ei gymeradwyo fe fydd y gwaith yn cychwyn yn 2012
|
Fe fydd Cyngor Sir Abertawe yn trafod cais i godi gorsaf newydd i Fâd Achub Y Mwmbwls ac adfer y pier. Mae disgwyl i'r cynghorwyr gymeradwyo'r cynlluniau £3 miliwn. Fe fydd y pier yn cael ei adfer ar y pileri gwreiddiol a chadw nifer o'r nodweddion Fictorianaidd. Byddai'r orsaf Bâd Achub newydd yn cael ei hadeiladu ar ddiwedd y pier ac yn gartref i'r bâd newydd, Tamar. Mae swyddogion y cyngor wedi cymeradwyo y dylai'r pwyllgor cynllunio ganiatáu'r cais. Petai'r cais yn cael ei gymeradwyo, fe fyddai'r gwaith yn cychwyn yng ngwanwyn 2012 ac y byddai wedi ei gwblhau erbyn hydref 2014. Rhannu'r farn Mae'r prosiect yn cael ei gysylltu gyda chais cynllunio gwerth £39 miliwn a fyddai'n cynnwys atyniad i ymwelwyr, gwesty, fflatiau moethus a datblygiad masnachol o amgylch y pier ac ar Y Mwmbwls. Mae'r cynlluniau hynny wedi rhannu'r farn yn lleol gyda dros 1,000 o bobl yn arwyddo deiseb yn erbyn, tra bod ymgyrch ar y we wedi derbyn dros 1,750 o bobl sy'n cefnogi. Fe fydd y cynlluniau yma yn mynd o flaen cynghorwyr dros yr wythnosau nesaf. Mae'r cais i adfer y pier ac adeiladu'r orsaf newydd yn un ar y cyd rhwng yr RNLI a pherchnogion y pier, Ameco. Gyda bâd y Tamar, mae'r RNLI yn dweud mai dyma'r lle gorau ar ei chyfer gan fod modd iddi gael ei danfon allan yn gynt. Fe fydd defnydd arall ar gyfer yr orsaf yn cael ei ystyried gan nad oes modd ei dymchwel gan ei bod wedi ei gofrestru. Dywed yr adroddiad cynllunio bod y pier a'r orsaf newydd yn mynd i fod "yn atyniad twristiaid sylweddol". Fe wnaeth yr orsaf yn Y Mwmbwls agor yn 1863.
|