British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Ebrill 2011, 17:01 GMT 18:01 UK
Phillips yn gadael y Gweilch

Mike Phillips
Mae'r Gweilch wedi cytuno i Mike Phillips adael cyn i'w gytundeb ddod i ben.

Bydd y Gweilch yn caniatáu i'r mewnwr Mike Phillips adael y rhanbarth, yn ôl cyfarwyddwr rygbi'r clwb Scott Johnson.

Mae Phillips, 28 oed, sydd wedi ymrwymo i gytundeb gyda'r Gweilch tan 2014 wedi ei gysylltu â symud i Ffrainc.

Mae ei gyd-aelodau ar dîm y Gweilch, James Hook a Lee Byrne, eisoes wedi dweud y byddan nhw'n symud i Ffrainc y tymor nesaf.

"Ar ôl sawl cais i symud gan Mike dros y 18 mis diwethaf, rydyn ni wedi cytuno i adael iddo fynd cyn gynted ag y gall ddod o hyd i glwb arall," meddai Johnson.

"Dwi'n credu ein bod yn dod i sefyllfa mewn sefydliad lle mae unrhyw un sydd ddim eisiau bod yma yn symud ymlaen.

"Dyna natur y chwaraewr modern. Mae'n drist, ond dyna'r ffordd mae chwaraeon yn mynd a byddai'n well gen i gael pobl yma sydd eisiau bod yma," ychwanegodd.

Enwau mawr

Ond dywedodd Johnson ei bod yn bosib nad yw Phillips wedi chwarae ei gêm olaf i'r rhanbarth er hynny gan y bydd yn dal i gael ei ddewis "ar ei allu".

Ers dychwelyd o chwarae dros Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad mae Phillips wedi bod y tu ôl i Rhys Webb o ran blaenoriaeth dewis y Gweilch.

Mae'n drist ond dyna'r ffordd mae chwaraeon yn mynd a byddai'n well gen i gael pobl yma sydd eisiau bod yma
Scott Johnson, Cyfarwyddwr y Gweilch

Mae'r rhanbarth hefyd wedi arwyddo'r mewnwr o Samoa, Kahn Fotuali'i o dîm Crusaders Seland Newydd.

Bydd Phillips, sydd hefyd wedi chwarae i dîm Llewod Prydain ac Iwerddon, yn dilyn nifer o enwau mawr eraill sydd wedi gadael Stadiwm Liberty.

Gadawodd Gavin Henson yn gynharach y tymor hwn am Toulon tra bod y maswr Hook wedi cyhoeddi ei fod yn mynd Perpignan, y cefnwr Byrne i Clermont Auvergne a'r prop Craig Mitchell i Gaerwysg ar ddiwedd y tymor.

Ond mae'r Gweilch wedi arwyddo'r olwyr Joe Bearman o'r Dreigiau a'r Samoad George Stowers o Wyddelod Llundain tra bod y capten Alun Wyn Jones a Shane Williams wedi arwyddo cytundebau newydd.

Ymunodd Phillips â'r Gweilch o glwb Gleision Caerdydd fis Ebrill 2007, yn ôl y sïon, am £700,000.

Enillodd ei 51fed cap rhyngwladol yn y gêm a gollodd Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae dan gytundeb gyda'r Gweilch hyd at 2014 ar ôl arwyddo cytundeb newydd ym mis Mawrth 2010.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific