Mae Jake Griffiths yn gobeithio ennill sedd yn y Cynulliad i'r Blaid Werdd
|
Gofyn am ail bleidlais etholwyr oedd aelodau'r Blaid Werdd wrth lansio'u maniffesto ar gyfer Etholiad y Cynulliad. Yng ngwesty'r Angel, Caerdydd fore Iau, dywedodd y Gwyrddion eu bod yn ffyddiog mai'r etholiad yw'r cyfle euraid i'r blaid ennill cynrychiolaeth yn y Cynulliad am y tro cyntaf. Eisoes mae ganddyn nhw restr lawn o ymgeiswyr yn y pum sedd ranbarthol ac yn gobeithio ennill digon o bleidleisiau i sicrhau bod un ymgeisydd yn llwyddiannus. Eu bwriad, pe baen nhw'n cael eu hethol, fyddai gwarchod gwasanaethau cyhoeddus, buddsoddi mewn swyddi carbon isel a chynnig dewis amgen i doriadau. Jake Griffiths yw arweinydd y Gwyrddion yng Nghymru a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai ei blaid yn adeiladu ar fomentwm ethol eu harweinydd Prydeinig, Caroline Lucas, yn Aelod Seneddol yn yr etholiad cyffredinol y llynedd. Y nod, meddai, fyddai cipio ail bleidlais pleidleiswyr Llafur. "Does dim pwynt pleidleisio i Lafur ddwy waith," meddai yn y lansiad fore Iau. Pwerau codi arian "Rydym yn gofyn i bobl roi eu hail bleidlais i'r Gwyrddion er mwyn gwarchod gwasanaethau cyhoeddus ac adeiladu economi carbon isel," meddai.
 |
ADDEWIDION Y GWYRDDION
Amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol
Creu 50,000 o swyddi yn yr economi carbon isel
Cefnogi busnesau lleol
Ynni glân diogel, dim niwclear
Ariannu ysgolion yn decach
Gwneud y gadwyn fwyd yn un lleol
Ystyried cyflwyno gofal cymdeithasol am ddim i'r henoed
|
Ers damwain niwclear Fukushima, meddai, mae etholwyr yn sylweddoli gwerth yr economi werdd ac eisiau cael eu hynni o ffynonellau adnewyddol. "Bydd y Gwyrddion yn y Cynulliad yn gweithio i gyfyngu ar niwed toriadau San Steffan a dadlau am y dewis arall, hybu buddsoddiad mewn swyddi newydd yn yr economi carbon isel. "Rydyn ni'n cefnogi'n ddiamod y syniad o wasanaethau cyhoeddus o safon a gwladwriaeth les sydd yno i bobol pan maen nhw ei hangen hi." Mae'r Gwyrddion yn cefnogi rhoi pwerau codi arian i'r Cynulliad fel y gall fuddsoddi mewn swyddi. Fe feirniadodd record y Cynulliad o ran cyrraedd targedau amgylcheddol a chreu swyddi gwyrdd a hybu'r economi werdd. "Bydd hwb ariannol a buddsoddi mewn cynlluniau gwyrdd yn creu miloedd o swyddi ac yn taclo newid hinsawdd yr un pryd," meddai.
|