Clawr maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol
|
Y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r blaid ddiweddaraf i lithro wrth i'w maniffesto nhw gynnwys gwallau sylfaenol. Mae clawr y maniffesto Cymraeg yn cyfeirio at etholiad "cyffreddinol" ac hefyd yn cynnwys y frawddeg wallus "Gall Cymru yn wneud yn Well." Mae'r frawddeg honno ar waelod pob tudalen o'r maniffesto ac mae gwallau iaith a gramadeg yn fersiynau Cymraeg a Saesneg y maniffesto. Ddydd Mawrth cyfeiriodd Plaid Cymru at linell Dylan Thomas oedd mewn gwirionedd yn rhan o gerdd cyn-weithiwr cymdeithasol o'r enw David Hughes. Nos Fawrth dywedodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, ar ei flog: "Gobeithio bod rhywun wedi prawf ddarllen maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol." Wrth ymateb i gwestiwn am y gwallau, dywedodd arweinydd y blaid, Kirsty Williams: "Fe fuom ni'n prawfddarllen, prawfddarllen a phrawfddarllen ond mae hyn ond yn dangos bod rhaid gwneud rhywbeth am llythrennedd a rhifeg yn y wlad hon. "Rwy'n difaru bod rhai o'r gwallau hyn wedi amlygu eu hunain ond rwy'n credu bod neges glir yn y maniffesto am beth ydyn ni eisiau ei wneud i drawsnewid ein gwlad."
|