Bu'r cwmni yn hedfan o Gaerdydd ers 2002
|
Mae cwmni awyr bmibaby wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi'r gorau i'w gwasanaethau o Faes Awyr Caerdydd. Bydd awyrennau'r cwmni yng Nghaerdydd yn symud i feysydd awyr Belffast, Birmingham ac East Midlands. Mae'r cwmni'n gyfrifol am naw o deithiau o Gaerdydd i Geneva, Faro, Belffast, Malaga, Murcia, Alicante, Ibiza, Palma a Mahon. Cynnig i symud Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae'n hanfodol i bmibaby ganolbwyntio ar feysydd awyr sydd â phresenoldeb cryf yn y farchnad a lle mae cyfleoedd i dyfu'r busnes. "Bydd bmibaby yn dechrau cyfnod ymgynghori o 30 diwrnod gyda'r undebau o ddydd Mercher, Ebrill 13, ymlaen. "Bydd criwiau a pheilotiaid sy'n gweithio yng Nghaerdydd (a Manceinion) yn cael cynnig i symud i weithio yng nghanolbarth Lloegr." Cadarnhaodd y cwmni fod bygythiad i 69 o swyddi yng Nghaerdydd, gan fod 44 aelod o griw caban, 24 peilot ac un rheolwr wedi cael rhybudd diswyddo. Roedd y cwmni'n pwysleisio fodd bynnag bod digon o swyddi tebyg ym meysydd awyr Birmingham ac East Midlands i bob un o'r 69 drosglwyddo yno'n syth os fyddan nhw'n dymuno hynny. Ergyd? Bydd y cyhoeddiad yn ergyd i Faes Awyr Caerdydd, gan eu bod nhw wedi datgan eu dymuniad i ehangu gweithredoedd y maes awyr yn ail hanner y llynedd. Bydd gwasanaethau o Gaerdydd yn dod i ben ar ddiwedd amserlen awyrennau'r haf ac fe fydd hynny rywbryd yn ystod hydref 2011. Bu'r cwmni yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd ers 2002 ond eisoes roedd rhai o deithiau'r cwmni - i Barcelona, Prague a Nice i enwi ond tri - wedi dod i ben. Caerdydd oedd ail ganolfan fwyaf y cwmni yn y DU.
|