British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Ebrill 2011, 12:15 GMT 13:15 UK
Diweithdra wedi codi yng Nghymru

Canolfan Waith
Mae 8.6% o weithlu Cymru yn ddi-waith

Mae diweithdra yng Nghymru wedi codi o 3,000 ers y chwarter diwethaf i 126,000.

Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddwyd ddydd Mercher, mae 8.6% o weithlu Cymru yn ddi-waith tra bod 7.8% yn y DU.

Er bod 126,000 o bobl ddi-waith yn fwy na'r chwarter diwethaf, mae'n 5,000 yn llai na'r un cyfnod y llynedd.

Ond hwn yw'r pumed mis yn olynol i nifer y di-waith godi yng Nghymru.

Mae'r nifer o bobl sydd yn economaidd anweithgar yng Nghymru - 487,000 - wedi gostwng 9,000 yn y chwarter.

Ar draws y DU, gostyngodd diweithdra 17,000 i 2.48m.



HEFYD
Di-weithdra yn golygu problemau
29 Rhag 10 |  Newyddion
Mwy yng Nghymru'n ddi-waith
15 Rhag 10 |  Newyddion
Cynnydd yn nifer y diwaith
02 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific