Kirsty Williams yn lansio maniffesto ei phlaid ddydd Mercher
|
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu canolbwyntio ar roi neges bositif yn yr etholiad hwn - dyna neges Kirsty Williams wrth lansio maniffesto'r blaid ddydd Mercher. Ond roedd hefyd ddigon o feirniadu record Plaid Cymru a Llafur mewn llywodraeth gan arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Aberaeron. Wrth anerch ffyddloniaid yng nghaffi'r Cwch Gwenyn, Aberaeron, amlinellodd Ms Williams syniadau ei phlaid i roi hwb i'r economi, creu swyddi, gwella sgiliau a gwella iechyd ac addysg - a hynny'n heb nodiadau. Ei bwriad yw perswadio'r etholwyr fod cyfle ganddyn nhw i greu newid. "Rwy eisiau canolbwyntio ar beth allwn ni ei wneud, achos rwy'n meddwl y gall Cymru wneud yn well," meddai. 'Cyfle' "Mae'r etholiad yn gyfle i bobl Cymru osod agenda Llywodraeth Cymru tan 2016.
 |
Addewidion
Creu swyddi drwy roi grantiau hyfforddi - gwerth £2,000 yr un - i fusnesau newydd sy'n sefydlu yng Nghymru ac yn rhoi swyddi i bobl ifanc ddi-waith;
Rhoi mwy o arian i ysgolion drwy roi cyllid ychwanegol i ddisgyblion sydd ei angen fwyaf fel y gall ysgolion fuddsoddi mewn dosbarthiadau llai neu addysg un-wrth-un a thrwy hynny daclo'r gwahaniaeth mewn gwariant rhwng Cymru a Lloegr;
Lleihau amser aros am driniaeth drwy gael gwared â gwastraff. Gwella gofal iechyd drwy gael gwared ar wario aneffeithiol yn y Gwasanaeth Iechyd a gwario'r arian yn well yn y rheng flaen;
Ailwampio effeithlonrwydd ynni 12,000 yn fwy o dai drwy ddyblu'r cyllid sydd ar gael i daclo tlodi tanwydd;
Torri ar y cyfyngiadau sy'n atal cynghorau rhag mentro a gweithredu er lles y gymuned leol.
|
"Mae fy mhlant i'n blant ysgol gynradd. Pan fyddwn ni'n trafod cyfeiriad addysg mewn etholiad eto, fe fyddan nhw ar fin sefyll eu harholiadau TGAU. "Yr etholiad yma yw cyfle fy mhlant i a miloedd o blant eraill." Cyfeiriodd hefyd at grwsâd y Democratiaid Rhyddfrydol yn erbyn gwastraff o fewn y llywodraeth. Mae'r blaid yn rhyddhau datganiad dyddiol yn cyfeirio at un enghraifft o wastraff yn ystod pedair blynedd y llywodraeth Llafur-Plaid Cymru. Beirniadodd y wasg am gwestiynu ar ddechrau'r ymgyrch a oedd digon o enghreifftiau i bara'r ymgyrch a rhestrodd y biliwn o bunnau o wastraff blynyddol yn y gwasanaeth iechyd, gwariant y llywodraeth ar swyddfeydd tramor costus a defnydd gan staff o gardiau credyd ar draul y wladwriaeth. Dywedodd bod teuluoedd ar draws Cymru'n cyfri'r ceiniogau "ac mae angen llywodraeth ym Mae Caerdydd sy'n gwneud yn union yr un peth." 'Cynllun radical' Roedd yn brolio cynnwys y maniffesto. "Gallwn ni fod yn falch o'n cynllun radical a phositif i ddatrys problemau Cymru," meddai. "Byddwn ni'n tynnu yr arwydd yna sydd ar Bont Hafren yn dweud 'Mae Cymru wedi cau i fusnes' i lawr. Dywedodd y byddai'r blaid yn cyflwyno 'cynllun canser go iawn' ac yn sicrhau ambiwlans awyr llawn amser er diogelwch ardaloedd gwledig Cymru - "mewn ardaloedd gwledig, mae ambiwlans awyr yn hanfodol, nid yn rhyw foethusrwydd." 'Sgwrs go iawn' Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi dweud wrth lansio'u hymgyrch y byddan nhw'n blaenoriaethu sgiliau pe baen nhw'n ennill yr etholiad. "Mae'r etholiad yma'n rhy bwysig i ganiatáu i'r Blaid Lafur anwybyddu materion Cymreig. "Ac mae Llafur a Phlaid Cymru wedi ein gadael ni gydag economi wan, ysgolion wedi eu tangyllido a Gwasanaeth Iechyd sy'n costio mwy ac yn cynnig llai. "Mae pobl Cymru'n haeddu sgwrs go iawn am sut y byddwn ni'n delio â'r materion hyn. "Dim mwy o esgusion - mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru'n credu y gall Cymru wneud yn well."
|