British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011, 16:41 GMT 17:41 UK
Plaid yn cywiro dyfyniad gwallus

David Hughes
Mae David Hughes yn weithiwr cymdeithasol 63 oed

Wrth lansio eu maniffesto ar gyfer Etholiad y Cynulliad honnodd Plaid Cymru mai geiriau'r bardd, Dylan Thomas, oedd "ambition is critical".

Mae hon yn egwyddor graidd yn ei maniffesto.

Ond fe ddaeth i'r amlwg brynhawn Mawrth nad Dylan Thomas oedd yr awdur wedi'r cyfan.

David Hughes, gweithiwr cymdeithasol 63 oed, sy biau'r geiriau a dywedodd fod y sefyllfa'n "ddifyr."

Geiriad y maniffesto yw: "Wrth i ni baratoi yn nhymor nesaf y Cynulliad ar gyfer dathlu 100 mlynedd ers geni Dylan Thomas, mae Plaid Cymru yn credu y dylai ei eiriau "ambition is critical" fod yn egwyddor sy'n llywio llywodraeth nesaf Cymru."

Dathlu

Roedd Mr Hughes yn un o dri artist gomisiynwyd gan Gyngor Abertawe i ysgrifennu barddoniaeth yn dathlu "hudoliaeth lle."

Ei ymateb i'r llinell "the graveyard of ambition" yw'r geiriau.

Pan glywodd am gamgymeriad Plaid Cymru dywedodd nad oedd yn synnu. "... mae'n debyg mod i'n teimlo'n falch," meddai.

"Nid nhw yw'r unig rai. Mae nifer o bobl yn credu mai Dylan Thomas biau'r geiriau ..."

Dywedodd Darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, Nigel Jenkins, fod y slogan yn un "wych" i faniffesto Plaid Cymru.

'Myth'

"Ond wrth ddweud taw Dylan Thomas oedd biau'r geiriau, mae arweinydd Plaid Cymru yn creu myth newydd ..."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mewn nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys un Prifysgol Abertawe, mae sôn mai geiriau Dylan Thomas yw'r rhain.

"Dyna'r rheswm am y dryswch efallai yn y lle cynta.

"... os yw'r dyfyniad yn anghywir, fe fyddwn ni'n cywiro ein maniffesto ar-lein ...

"Serch hynny, rydyn ni o'r farn y dylai'r geiriau fod yn egwyddor graidd ar gyfer y llywodraeth nesa er mwyn creu Cymru well."

Mae dyfyniad Mr Hughes yn strategaeth gymunedol Cyngor Abertawe ar gyfer 2010-14.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific