British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011, 13:45 GMT 14:45 UK
Dirwy o £750 i gynghorydd Ynys Môn

Datganiad ffug wrth hawlio budd-dal analluogrwydd

Mae cynghorydd o Ynys Môn wedi cael dirwy o £750 a gorchymyn i dalu £115 o gostau ar ôl pledio'n euog.

Roedd Hefin Wyn Thomas, sydd wedi cynrychioli Pentraeth ers 1995, wedi cael ei gyhuddo o wneud datganiad ffug wrth hawlio budd-dal analluogrwydd.

Yr Adran Waith a Phensiynau oedd wedi dwyn achos yn ei erbyn ond cafodd y cyhuddiad ei leihau ar ôl i'r erlyniad dderbyn mai trwy gamgymeriad yr oedd wedi hawlio'r arian yn hytrach na thrwy anonestrwydd.

Clywodd Llys Ynadon Caergybi fod y ffermwr o Bentraeth, sy'n diodde' o broblemau cefn, wedi methu â nodi ei lwfans llawn fel cynghorydd ar ddau gais ar wahân am fudd-dal analluogrwydd.

Roedd y cyhuddiad yn ymwneud â cheisiadau budd-dal yn 2005-2006 a 2008-2010.

Golygodd hyn ei fod wedi hawlio £7,726 ar gam.

Mae Mr Thomas eisoes wedi talu'r arian yn ôl.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Rydym yn ymwybodol o'r achos llys a'i ganlyniad.

"Byddwn nawr yn rhoi ystyriaeth bellach i'r mater."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific