British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011, 06:26 GMT 07:26 UK
Economi yn destun trafodaeth ar y teledu

Y panelwyr oedd Aled Roberts, Sandy Mewies, Darran Millar a Heledd Fychan
Y panelwyr oedd Aled Roberts, Sandy Mewies, Darran Millar a Heledd Fychan

Mae ymgeiswyr yn Etholiad y Cynulliad fis nesa' wedi gwrthdaro ar fater yr economi yn nadl deledu gyntaf BBC Cymru yn ystod yr ymgyrch.

Roedd cynrychiolwyr o'r pedair prif blaid yn wynebu cwestiynau am wariant cyhoeddus gan y gynulleidfa ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Beio'r "bancwyr barus" wnaeth ymgeisydd Llafur yn Nelyn, Sandy Mewies, tra bod Heledd Fychan, un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn rhanbarth Gogledd Cymru yn canmol "gweledigaeth" ei phlaid ar yr economi.

Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol, Aled Roberts, sydd ar restr ranbarthol Gogledd Cymru, bod yr economi "mewn llanast" a bod rhaid datrys y sefyllfa, tra bod Darren Millar, ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngorllewin Clwyd, yn dweud nad ydi Cymru wedi symud ymlaen o dan arweiniad y Glymblaid Llafur-Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Fe fydd BBC Cymru yn darlledu dwy ddadl deledu Saesneg arall a dwy yn y Gymraeg cyn yr etholiad ar Fai 5.

Beirniadu

Fe wnaeth Ms Fychan amddiffyn ei phlaid o dan arweinyddiaeth Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru.

Dywedodd bod 'na welliannau wedi bod o dan ei gyfarwyddyd fel Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth Cymru.

Roedd y panelwyr eraill wedi beirniadu Mr Jones.

Mae Plaid Cymru yn bwriadu uno'r de a'r gogledd er mwyn bod "yn un genedl" meddai Ms Fychan.

Fe ddywedodd Ms Mewies o'r blaid Lafur eu bod "wedi cyflwyno'r hyn oedd yn y cytundeb" i sefydlu'r glymblaid yn 2007.

Ychwanegodd nad bai'r llywodraeth Lafur ddiwethaf oedd sefyllfa ariannol y DU ond yn hytrach bai'r "bancwyr barus".

"Nhw ydi'r bobl ddylai fod yn diodde' nawr. Yn hytrach mae'r rhai tlawd yn cael eu taro waetha'."

Dywedodd Mr Millar o'r blaid Geidwadol bod gwariant cyhoeddus yn cael ei dorri oherwydd bod "y llywodraeth Lafur ddiwethaf wedi ein gadael mewn dyled".

"Dydyn ni ddim wedi symud ymlaen mewn 12 mlynedd o lywodraeth o dan Llafur yn y Cynulliad ac yn sicr heb symud ymlaen yn y pedair blynedd diwethaf o dan y glymblaid."

'Ateb tymor byr'

Eglurodd mai'r Ceidwadwyr "oedd yr unig blaid i ymroi i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd".

Mae gwrthwynebwyr yn dweud bod cynlluniau'r Ceidwadwyr i'r gwasanaeth iechyd yn golygu toriadau mwy i adrannau eraill o Lywodraeth y Cynulliad.

Galwodd y Democrat Rhyddfrydol, Mr Roberts, am gyflwyno cynllun a fyddai'n targedu arian tuag at y plant mwya' difreintiedig.

Dywedodd fod cynllun y llywodraeth Lafur ddiwethaf i ddarparu arian ar gyfer swyddi yn "ateb rhad tymor byr".

"Realiti ein sefyllfa economaidd, sy'n llanast llwyr, yw ei fod angen ei ddatrys," meddai.

"Boed hynny yn fai'r bancwyr neu lywodraeth Lafur, nid hynny gawn ni allan o'r llanast."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific