British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Ebrill 2011, 18:44 GMT 19:44 UK
Amseru cyfri'n wahanol

Papurau pleidleisio
Dydd Gwener nid dros nos y bydd y cyfri yn y gogledd

Am y tro cyntaf fe fydd amseru cyfrif pleidleisiau etholiad yn wahanol - y diwrnod canlynol yn y gogledd a thros nos yng ngweddill Cymru.

Roedd Llywydd y Cynulliad, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ac arweinwyr y prif bleidiau gwleidyddol, wedi galw ar y swyddogion i gyfrif dros nos.

Ond gan fod pleidlais refferendwm y bleidlais amgen (AV) yn cael ei chyfrif ar y dydd Gwener mae swyddogion yn y gogledd am wneud yr holl gyfri yr un diwrnod.

Ym mhob etholaeth arall yng Nghymru fe fydd y cyfrif dros nos a'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn oriau mân fore Gwener.

Mae hyn yn golygu y bydd rhaid disgwyl yn hirrach am ganlyniadau pedair sedd rhanbarth a naw sedd etholaethol y gogledd.

Bydd swyddogion cyfrif Gwynedd yn cyfrif pleidleisiau Dwyfor Meirionnydd - sydd yn rhan o ranbarth Canol a Gorllewin Cymru - dros nos a phleidleisiau Arfon - sydd yn rhan o ranbarth Gogledd Cymru - yn ystod y dydd, Mai 6.

'Dim newid'

Cafodd y mater ei drafod yng nghyfarfod y swyddogion etholiadol a Chomisiwn yr Etholiad yng Nghaerdydd.

Mae BBC Cymru yn deall bod cyfri ddydd Gwener yn hytrach na nos Wener wedi ei drafod a bod swyddogion etholiadol y gogledd wedi dweud eu bod yn fodlon ar y sefyllfa bresennol.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych ar ran chwe awdurdod y gogledd na fyddai dim yn newid ac y byddai cyfri Etholiad y Cynulliad yn digwydd cyn dechrau cyfri pleidleisiau'r refferendwm brynhawn Gwener.

Dywedodd Mohammed Mehmet, swyddog cyfrif y gogledd yn ddiweddarach mai ofnau dros gyfrif y bleidlais amgen ar Fai 6 yw'r broblem.

Dywedodd y byddai'r broses wirio yn cymeryd hyd at 3-4am, felly na fyddai canlyniadau'r Gogledd yn cael eu datgelu tan 7-9am.

Ac eglurodd y byddai disgwyl i'r un swyddogion cyfrif ddod nôl i gyfrif pleidleisiau'r refferendwm am 4pm a byddai hynny'n peryglu'r cyfrif oherwydd byddai'r swyddogion sy'n cyfrif ddim yn dod -dywedodd bod nifer yn gweithio i adrannau eraill o'r cyngor neu'n staff mewn banciau ac felly gallai beryglu eu swyddi.

'Yn ddiddorol'

"Dwi'n credu bod pobl â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac sydd wedi trafferthu i bleidleisio yn disgwyl cael y canlyniad yn brydlon, sy'n golygu cyn gynted â phosib," meddai Llywydd y Cynulliad wrth BBC Cymru ddydd Sul.

"Rydym yn disgwyl am y canlyniadau, a dyna sy'n gwneud gwleidyddiaeth yn ddiddorol."

Dywedodd Swyddog Etholiadol Rhanbarth y Gogledd, Mohammed Mehmet, y byddai newid yr amserlen ar gyfer y cyfri "yn golygu risg sylweddol".

Ychwanegodd ei fod wedi ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol ac iddo gael cadarnhad fod trefniadau cyfri'r gogledd yn "ddiogel".



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific