British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Ebrill 2011, 15:12 GMT 16:12 UK
Angladd Brynle Williams wedi ei gynnal

Brynle Williams
Daeth Brynle Williams i'r amlwg fel ymgyrchydd yn erbyn prisiau tanwydd uchel

Roedd cannoedd yn angladd y gwleidydd Brynle Williams yn ei bentre genedigol ddydd Llun.

Roedd y dyn fu farw'r wythnos diwethaf yn 62 oed yn Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr ers 2003.

Cafodd yr angladd ei gynnal ym mhentre' Cilcain ger Yr Wyddgrug.

Yr un diwrnod doedd y prif bleidiau yng Nghymru ddim yn ymgyrchu ar gyfer Etholiad y Cynulliad.

Y ffermwr oedd llefarydd materion gwledig ei blaid.

Er mai ffermio gwartheg a defaid oedd Mr Williams, roedd yn arbenigwr ar gobiau Cymreig ac yn aelod o Gyngor y Gymdeithas Cobiau Cymreig.

Tu allan i'r eglwys

Cafodd yr arch ei chludo i Eglwys Y Santes Fair mewn hers yr oedd ceffylau yn ei thynnu.

Angladd Brynle Williams
Roedd yr eglwys dan ei sang ar gyfer yr angladd

Roedd nifer o'r galarwyr yn gorfod sefyll y tu allan i'r eglwys.

Ymhlith y galarwyr o'r byd gwleidyddol yr oedd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad; Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, yr Aelodau Seneddol Ceidwadol Alun Cairns, Glyn Davies a David Jones; Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ac Alun Davies a Carl Sargeant o'r Blaid Lafur.

Daeth Mr Williams i amlygrwydd wrth arwain y brotest yn erbyn prisiau tanwydd ym mis Medi 2000.

Roedd yn llefarydd ar ran y ffermwyr fu'n protestio y tu allan i Burfa Olew Stanlow ger Ellesmere Port yn Sir Gaer.

Cyn hynny bu'n ymgyrchydd blaenllaw wrth geisio atal mewnforio cig i borthladd Caergybi yn 1997.

Mae'n gadael gwraig, Mary, ynghyd â mab a merch.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU


HEFYD
Brynle Williams wedi marw
01 Ebr 11 |  Newyddion
Ymgyrchydd tanwydd yn AC
02 Mai 03 |  Newyddion
Ymgyrch yn erbyn pris tanwydd
12 Mai 04 |  Newyddion
Bygwth arweinwyr protestwyr petrol
15 Tach 00 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific