Mae Plaid Cymru'n lansio'u maniffesto ddydd Mawrth
|
'Ni yw'r rhai fydd yn dwyn y maen i'r wal' - dyna neges Plaid Cymru wrth lansio eu maniffesto yn yr Atrium yng Nghaerdydd ddydd Mawrth. Wrth osod eu rhaglen lywodraethol gerbron yr etholwyr, mae Plaid Cymru'n erfyn ar bobl i beidio â phleidleisio i Lafur a rhoi cyfle i Blaid Cymru "drawsnewid Cymru." Maen nhw'n addo "meddwl yn greadigol" am sut i fynd i'r afael â phroblemau economaidd, addysgol ac iechyd Cymru. Mae'r blaid yn ymgyrchu am y tro cyntaf yn amddiffyn record lywodraethol, wedi pedair blynedd mewn clymblaid a Llafur. Ond bu Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, yn beirniadu Llafur am greu "diwylliant o esgusodion" a mynnu nad oes gan Lafur uchelgais. 'Trawsnewid' Mynnodd Mr Jones a'i gyd-bleidwyr bod syniadau ganddyn nhw i weithredu er lles Cymru ar waethaf cyfyngiadau cyllidebol y pedwerydd Cynulliad. Dywedodd bod Plaid Cymru "wedi dangos bod meddwl mewn ffordd newydd wir yn gallu gwneud gwahaniaeth. "Ond rydym ni eisiau gwneud mwy. "Mae ar Gymru angen arweiniad Plaid i drawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus, nid dim ond ei rheoli nhw."
 |
Addewidion Plaid Cymru
Adeiladu llywodraeth Gymreig gryfach, fwy effeithlon ac effeithiol;
Creu swyddi ac amgylchedd busnes cryfach a gwytnach;
Codi safonau mewn addysg a gwella lles ac ansawdd bywyd dinasyddion;
Meddyg a deintydd pan fo'u hangen;
Gwell mynediad at dai fforddiadwy o safon;
Ymdrin â'r pwysau sy'n wynebu ein hinsawdd a'n hamgylchedd naturiol;
Dathlu a hybu diwylliant Cymru;
Cysylltu Cymru - mwy o gyswllt band llydan ar draws Cymru, mwy o WiFi ar drafnidiaeth gyhoeddus; trydanu'r rheilffyrdd yn y Cymoedd a gogledd Cymru
|
Maen nhw'n dweud bod yr egwyddor tu ôl i'r ymadrodd "dwyn y maen i'r wal" yn rhan o weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer llywodraethu Cymru. Wrth lansio'r maniffesto, dywedodd Cyfarwyddwraig Polisi'r blaid ac ymgeisydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Nerys Evans, mai dim ond Plaid Cymru oedd â gweledigaeth ar gyfer Cymru. 'beiddgar, ymarferol, fforddiadwy' "Mae Plaid Cymru eisiau i'r etholiad hwn fod yn frwydr syniadau am weledigaeth am greu Cymru gref, hyderus a ffyniannus," meddai. "Allwn ni ddim fforddio pum mlynedd arall o fethiant a diffyg uchelgais Llafur. "Wedi ymgynghoriad a barodd dros flwyddyn ac sydd wedi cynnwys cannoedd o bobl, rydym yn cyhoeddi maniffesto sydd, yn ein barn ni, yn cyrraedd y nod. "Mae'n feiddgar, mae'n ymarferol, yn fforddiadwy, ac o'i weithredu, gall arwain ar drawsnewid ein heconomi a rhai o'n gwasanaethau cyhoeddus allweddol." Pwysleisiodd y blaid eto'i syniadau craidd ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru; creu swyddi trwy gronfa 'Adeiladu dros Gymru' sy'n werth £500m gyda chyllid o gwmni preifat nid-er-elw hyd braich o'r llywodraeth; taclo anllythrennedd gyda'r nod o'i ddileu erbyn 2020; sicrhau gofal iechyd cyflymach a mwy effeithiol; a gwella cysylltiadau trafnidiaeth a thechnoleg fel eu bod yn addas i genedl fodern yn y ganrif hon.
|