British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Ebrill 2011, 11:21 GMT 12:21 UK
BNP: Achos yn dod i ben

Sion Owens
Cyhoeddwyd Sion Owens yn ymgeisydd BNP yn rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Mae achos yn erbyn ymgeisydd y BNP yn Etholiad Cynulliad, gafodd ei gyhuddo o gael ei ffilmio yn llosgi copi o'r Corân, wedi dod i ben.

Cafodd Sion Owens, 41 oed o Abertawe, ei gyhuddo o dan y Ddeddf Drefn Gyhoeddus dros y penwythnos.

Ond penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dynnu'r achos yn ôl yn Llys Ynadon Abertawe fore Llun.

Ond dywedodd yr erlynydd, Bryn Hurford, wrth y diffynnydd y byddai'r ymchwiliad i'w weithredoedd yn parhau ac y "byddai achosion eraill yn dilyn".

Daeth y cyhuddiad wedi i fideo gael ei basio i'r heddlu.

Llosgi

Mae'n ymddangos bod y fideo yn dangos y dyn yn llosgi copi o'r Corân.

Cyhoeddwyd fod Mr Owens yn ymgeisydd ar restr derfynol y BNP yn rhanbarth Gorllewin De Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd ail ymgeisydd y BNP yn yr etholiad ei harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad a'i rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid y byddai'r ddau yn parhau i fod yn ymgeiswyr yn yr etholiad ar Fai 5.

Cafodd Mr Owens ei gyhuddo nos Sadwrn a'i gadw yn y ddalfa tan iddo ymddangos yn y llys.

Cafodd Joanne Shannon ei rhyddhau ar fechniaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific