Daeth Brynle Williams i'r amlwg fel ymgyrchydd yn erbyn prisiau tanwydd uchel
|
Dydi prif bleidiau gwleidyddol Cymru ddim yn ymgyrchu ar gyfer etholiad y Cynulliad ddydd Llun fel arwydd o barch wedi marwolaeth gwleidydd. Fe fydd angladd y Ceidwadwr Brynle Williams yn cael ei gynnal ddydd Llun. Bu farw Mr Williams, 62 oed, yr wythnos ddiwethaf. Roedd Mr Williams yn ffermwr ac roedd yn Aelod yn y Cynulliad dros y Blaid Geidwadol ers 2003, ac roedd yn llefarydd materion gwledig ei blaid. Amlygrwydd Mae'r angladd yn cael ei gynnal yn ei bentref genedigol, Cilcain ger Yr Wyddgrug, ddydd Llun. Er mai ffermio gwartheg a defaid oedd Mr Williams, roedd hefyd yn arbenigwr ar gobiau Cymreig ac yn aelod o gyngor y Gymdeithas Cobiau Cymreig. Daeth i amlygrwydd cyhoeddus wrth arwain y brotest yn erbyn prisiau tanwydd ym mis Medi 2000. Roedd yn llefarydd ar ran y ffermwyr fu'n protestio y tu allan i burfa olew Stanlow ger Ellesmere Port yn Sir Gaer. Cyn hynny, bu'n ymgyrchydd blaenllaw wrth geisio atal mewnforio cig i borthladd Caergybi yn 1997. Teyrngedau Cafodd ei ddisgrifio gan y Prif Weinidog David Cameron fel "siaradwr di-flewyn ar dafod a fydd yn golled fawr i'r Cynulliad ac i Gymru." Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod Mr Williams yn gymeriad lliwgar oedd yn wrthwynebydd gwleidyddol caled. Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, fod Mr Williams yn hynod boblogaidd ymhlith yr holl bleidiau. Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones: "Byddaf yn cofio ei frwdfrydedd heintus fel Aelod Cynulliad ac fel dyn cwbl anrhydeddus a pharchus." Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams: "Roedd Brynle yn gymeriad cynnes a didwyll ac yn gymeriad gwych yn y Cynulliad. "Yr oedd wrth gwrs yn eiriolwr cryf dros y Gymru wledig a'r diwydiant amaeth ac yn hynod wybodus a brwd dros geffylau." Mae'n gadael gwraig, Mary, ynghyd â mab a merch.
|