British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Ebrill 2011, 12:33 GMT 13:33 UK
Y Barnwr Michael Farmer wedi marw

Yr Anrhydeddus Farnwr Michael Farmer QC
Roedd yn frwd dros yr iaith Gymraeg

Bu farw Yr Anrhydeddus Farnwr Michael Farmer QC yn 66 oed ddydd Gwener ar ôl mynd yn sâl yn Llundain.

Mae'n gadael gweddw, Olwen, a dau o blant, Siôn ap Mihangel a Mair Mihangel - y ddau yn fargyfreithwyr.

Bore Llun roedd munud o dawelwch yn Llysoedd Barn Yr Wyddgrug pan ddaeth aelodau Llys y Goron, y Llys Sirol, y Llys Teulu a'r Llys Ynadon at ei gilydd ac roedd 'na funud o dawelwch yn Llys Y Goron Abertawe yn ogystal.

Yn Yr Wyddgrug fe wnaeth y Barnwr Philip Hughes, arwain y teyrngedau gyda'r Barnwr Dafydd Hughes, y Barnwr Niclas Parry a'r Barnwr Viv Reeves.

"Fe fyddwch chi i gyd wedi clywed y newyddion trist iawn am farwolaeth Yr Anrhydeddus Farnwr Michael Farmer QC yn Llundain dros y penwythnos," meddai'r Barnwr Hughes.

Yn Abertawe dywedodd Mr Ustus John Griffith Williams bod Mr Farmer wedi bod "yn ffigwr pwysi iawn" ym myd y gyfraith ac y byddai'n ei golli "yn y cyd-destun hwnnw ac yn bersonol".

Adolygiad arbennig

Yn ogystal â bod yn farnwr Cylchdaith Cymru a Chaer ers 2001 fe oedd cadeirydd adolygiad arbennig i Gyngor Sir Ynys Môn yn 1998-99.

Bu hefyd yn weithgar yn wleidyddol ac roedd yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Conwy dros Blaid Cymru yn 1974.

Yn enedigol o Ddyffryn Nantlle, dechreuodd ei yrfa fel athro yn Llandudno.

Fe ddaeth yn fargyfreithiwr yn 1972. Yn 1995 fe ddaeth yn Gofiadur Llys y Goron ac yn farnwr yn 2001.

Yn 2004 cafodd ei ddewis yn Farnwr Materion Teuluol Gogledd Cymru ac roedd yn frwd o blaid y Gymraeg.

'Y Gymraeg'

Yn yr un flwyddyn fe oedd Cyswllt Iaith Gymraeg Cylchdaith Cymru a Chaer.

Bu'n gweithio dramor am gyfnod, yn Brif Farnwr yng ngwersylloedd milwrol Dhekelia ac Akrotiri ar Ynys Cyprus.

Yn 2009 pan gafodd ei dderbyn i Orsedd y Beirdd dywedodd llefarydd yr Eisteddfod: "Cafodd y barnwr yrfa lewyrchus iawn ym myd y gyfraith a gwasanaethodd yn ddiweddar ar amrywiol dribiwnlysoedd a phwyllgorau adolygiadol.

"Bu'n arbennig o ddylanwadol o blaid y Gymraeg ar Bwyllgor yr Arglwydd Ganghellor a llwyddo hefyd i weddnewid y Bar yng Nghaer drwy fabwysiadu polisi i annog a recriwtio Cymry Cymraeg yn aelodau."

Ar ôl byw yn Yr Wyddgrug am flynyddoedd roedd yn byw yn Chwitffordd ger Treffynnon.



HEFYD
Urddo Cymry am gyfraniadau
07 Awst 09 |  Newyddion
Pennaeth cyngor sir i ymddeol
06 Maw 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific