British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Ebrill 2011, 06:51 GMT 07:51 UK
Ymgeisydd BNP gerbron llys

Sion Owens
Cyhoeddwyd Sion Owens yn ymgeisydd BNP yn rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Mae un o ymgeiswyr y BNP yn etholiadau'r Cynulliad i ymddangos gerbron llys wedi cael ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus.

Daeth y cyhuddiad wedi i fideo gael ei basio i'r heddlu.

Mae'n ymddangos bod y fideo yn dangos y dyn yn llosgi copi o'r Koran.

Cafodd Sion Owens, 41 oed, ei enwi fel ymgeisydd ar restr derfynol y BNP yn rhanbarth Gorllewin De Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Bydd yn ymddangos gerbron ynadon Abertawe fore Llun.

Cafodd ail ymgeisydd y BNP yn yr etholiadau ei harestio mewn cysylltiad â'r digwydd, a'i rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y BNP y byddai'r ddau yn parhau i fod yn ymgeiswyr yn yr etholiad ar Fai 5.

Ddydd Gwener, fe gafodd yr heddlu fideo sy'n ymddangos fel petai'n dangos Mr Owens yn tywallt hylif fflamadwy ar gopi o'r Koran cyn ei danio a'i wylio'n llosgi.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cafodd ef ac un arall o ymgeiswyr ei blaid yn etholiad y Cynulliad, ymgeisydd Dwyrain Abertawe Joanne Shannon, eu harestio.

Cafodd Mr Owens ei gyhuddo nos Sadwrn a'i gadw yn y ddalfa tan iddo ymddangos yn y llys ddydd Llun.

Cafodd Ms Shannon ei rhyddhau ar fechniaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific