Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas
|
Mae Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Elis Thomas, yn galw am gyfri pleidleisiau etholiad y Cynulliad yng ngogledd Cymru ar noson y bleidlais. Yn y rhan fwyaf o Gymru, fe fydd y pleidleisia'u cael eu cyfri dros nos. Ond mae swyddogion y cyfri yn etholaethau rhanbarth y gogledd wedi penderfynu dechrau ar y gwaith y bore wedyn. Yn ei rôl fel cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas fod cyfri dros nos yn gwneud gwleidyddiaeth yn ddiddorol. 'Diddorol' Dywedodd: "Dwi'n credu fod pobl sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac sydd wedi trafferthu i bleidleisio yn disgwyl cael y canlyniad yn brydlon, sy'n golygu cyn gynted â phosib. "Rydym yn disgwyl am y canlyniadau, a dyna sy'n gwneud gwleidyddiaeth yn ddiddorol." Mae'r Arglwydd Elis Thomas wedi ysgrifennu at swyddog etholiadol rhanbarth y gogledd, Mohammed Mehmet, i leisio'i bryderon yntau ac arweinwyr y pedair prif blaid yn y Cynulliad. Yn y llythyr, dywedodd: "Mae'r glir o'ch ateb chi na fu ymgynghori gyda'r Cynulliad Cenedlaethol nac unrhyw un o'i bwyllgorau nac aelodau cyn diddymu'r senedd am y penderfyniad yma." 'Risg sylweddol' Mae swyddogion yn wynebu'r dasg o gyfri tri phapur pleidleisio gwahanol ar Fai 5 sef etholaethau unigol, seddi rhanbarthol ac am y refferendwm ar y drefn bleidleisio yn y DU. Bydd cyfarfod ddydd Llun i bob un o swyddogion etholiadol gogledd Cymru pan fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud am y trefniadau cyfri. Wrth ymateb i lythyr y Llywydd, dywedodd Mr Mehmet y byddai newid yr amserlen ar gyfer y cyfri yn golygu risg sylweddol. Dywedodd ei fod wedi ymgynghori gyda'r Comisiwn Etholiadol ar y mater, ac iddo gael cadarnhad fod y trefniadau cyfri yn y gogledd yn "ddiogel". Ychwanegodd: "Mae'r Comisiwn mewn gwirionedd yn bryderus am y risg o gyfri drwy'r nos mewn rhai ardaloedd eraill. "Gallaf roi sicrwydd i'r Llywydd fod cynllunio ar gyfer cyfri yn y rhanbarth yma wedi bod yn drylwyr ac wrth gwrs wedi dilyn y broses gywir."
|