British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Ebrill 2011, 12:48 GMT 13:48 UK
Sain Ffagan: ail-greu organ eglwys ganoloesol

Eglwys Sant teilo
Mae'r cynllun yn rhan o brosiect i greu tu mewn Eglwys Sant Teilo

Cafodd ail-luniad o organ eglwysig canoloesol sy'n gweithio ei dadorchuddio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Fe fydd yn bosib clywed sŵn unigryw'r organ am y tro cyntaf ers canrifoedd.

Nid oes yr un organ gwreiddiol yn bodoli ers diwygiad y 16eg Ganrif.

Fe fu gweithwyr yn adeiladu'r offeryn am rhyw naw mis ond roedd hi'n dasg anodd oherwydd diffyg wybodaeth wreiddiol.

Mae'r organ rydyn ni wedi adeiladu yn llai na'r un ym Mhencraig ond rydyn ni wedi ail greu rhai o fanylion y cynllun
John Harper

Dywedodd swyddogion yr amgueddfa byddai'r offeryn yn ail greu sŵn cerddoriaeth a glywid yn eglwys ganoloesol.

Yn ôl y swyddogion bydd sŵn yr organ yn un wahanol iawn i'r sŵn mae organ eglwys gyfoes yn ei wneud.

'Cas gwych'

Mae'r cynllun yn rhan o brosiect i greu tu mewn Eglwys Sant Teilo yn yr amgueddfa.

Dywedodd arweinydd y cynllun, yr Athro John Harper o adran gerddoriaeth Prifysgol Bangor, fod yr offeryn newydd wedi ei seilio ar ddyluniad organ ganoloesol o Bowys.

"Dim ond tri darn o organau canoloesol sy'n bodoli bellach.

"Mae 'na ddau ddarn o organ a ddarganfuwyd yn Suffolk gyda chas gwych heb organ y tu mewn iddo, ym Mhencraig ym Mhowys.

"Mae'r organ rydyn ni wedi adeiladu yn llai na'r un ym Mhencraig ond rydyn ni wedi ail greu rhai o fanylion y cynllun."

Dydd Gwener bydd yr Athro Harper, Dr Magnus Williamson, Dominic Gwyn a Fleur Kelly yn cynnal gweithdy yngl?n â hanes yr organ Prydeinig yn ystod y canol oesoedd.



HEFYD
Lluniau: Eglwys Sant Teilo
18 Awst 10 |  Crefydd a Moeseg
Dathlu sant ac ailgodi eglwys
09 Chwef 07 |  Newyddion
Y 'wyrth' o ailgodi eglwys
13 Hyd 07 |  Newyddion
Eglwys: 'Y darlun yn gyflawn'
02 Medi 09 |  Newyddion
Carreg milltir i eglwys hynafol
07 Maw 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific