Diwrnod olaf y trydydd Cynulliad a diwrnod olaf nifer o wleidyddion fel ACau
Bydd rhai gwleidyddion cyfarwydd yn absennol pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull wedi'r etholiad. Siaradodd BBC Cymru Arlein â rhai o'r rhai sy'n troi eu cefn ar Fae Caerdydd. Mae Lorraine Barrett, Alun Cairns, Gareth Jones a Jenny Randerson bob un wedi sefyll ym mhob un etholiad Cynulliad ers dechrau'r sefydliad yn 1999. Mae 15 o wleidyddion na fydd yn dychwelyd i'r Cynulliad, heb sôn am y rhai sy'n sefyll a allai golli eu seddi.
LORRAINE BARRETT
Wedi cynrychioli De Caerdydd a Phenarth yn y Cynulliad ers 1999, mae Lorraine Barrett yn dweud bod ymddeol yn "briliant, gwirioneddol dda."
Cyhoeddodd hi nôl yn 2009 na fyddai hi'n dychwelyd i'r pedwerydd Cynulliad ac mae hi'n difaru dim iddi wneud y penderfyniad. Mae etholiad heb fod yn ymgeisydd yn "llawer llai o bwysau" meddai er ei bod hi'n parhau i ddosbarthu taflenni a chnocio drysau ar ran ei phlaid. "Rydw i wedi ymddeol fel AC ond rwy'n dal i fod yn Gomisiynydd hyd nes y bydd Comisiynwyr newydd yn cael eu penodi." Mae'r cyn AC yn aelod o Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain. "Rwy'n gallu gwneud llawer mwy o fy angladdau dyneiddiol ac roedd hi bob amser yn rhan o'r cynllun i ganolbwyntio mwy arna i a fy nheulu ac i wneud yr angladau heb y pwysau o orfod eu ffitio nhw mewn o amgylch y gwaith." Cyn aelodau Llafur arall na fydd yn sefyll eto yw Rhodri Morgan, Jane Davidson, Andrew Davies, Dr Brian Gibbons, Irene James, Val Lloyd, Karen Sinclair.
ALUN CAIRNS
Cafodd Alun Cairns ei ethol fel Aelod Seneddol Bro Morgannwg yn etholiad cyffredinol 2010.
Mae Alun Cairns yn AS ers Mai 2010
|
Penderfynodd barhau fel aelod cynulliad rhanbarth Gorllewin De Cymru hyd nes diddymu'r Cynulliad ym Mawrth 2011. Heb fod yn ymgeisydd eleni, mae'n cyfaddef bod y profiad yn "beth od." Mae'n cyd-bwyso'i waith fel Aelod Seneddol gyda chefnogi ei blaid - y Ceidwadwyr Cymreig - yn yr ymgyrch etholiadol. Mae'n "ceisio siarad â phobl fel arfer" ond yn gweld bod etholwyr yn meddwl mai ymgyrchu mae e oherwydd bod yr etholiad ar y ffordd. Er nad yw cyfrifoldeb o fod yn AC rhanbarth ar ei ysgwyddau bellach, mae'n amau a fydd y pwysau gwaith yn llacio. "Rydw i'n cynrychioli'r etholaeth," meddai. "Rydw i'n codi unrhyw beth sydd i'w wneud â'r etholaeth." Alun Cairns yw'r unig Geidwadwr sydd ddim yn sefyll eto fel AC. Fe fu farw Brynle Williams, oedd yn bwriadu sefyll eto, ar ddechrau'r ymgyrch.
JENNY RANDERSON
Mantais peidio â bod yn ymgeisydd i Jenny Randerson yw bod mwy o amser ganddi i ymgyrchu, meddai.
Mae mwy o amser gan Jenny Randerson i ymgyrchu
|
Fel ymgeisydd Canol Caerdydd y Democratiaid Rhyddfrydol, roedd hi byth a hefyd yn gorfod cymryd rhan mewn trafodaethau radio a theledu, a gwneud cyfweliadau. "Mae mwy o amser gen i ddosbarthu taflenni a chnocio drysau tro 'ma," meddai. "Ond pan fydd y Cynulliad yn ail-ymgynnull, rwy'n hollol sicr y bydda i'n genfigennus o'r bobl fydd yna." Er hynny, mae'n edrych ymlaen at ei swydd newydd fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Ar ôl yr etholiad y bydd y Farwnes Randerson yn dechrau ar ei gwaith "fwy neu lai yn llawn amser" ac mae eisoes wedi dechrau paratoi at y gwaith. Mae hi'n bwriadu canolbwyntio ar faterion oedd o ddiddordeb iddi yn y Cynulliad - triniaeth i gleifion â hepatitis C, a materion econonmaidd. Jenny Randerson yw'r unig AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd ddim yn sefyll eto. Dydy Mick Bates (Democrat Rhyddfrydol answyddogol) ddim yn sefyll eto chwaith.
GARETH JONES
Cafodd Gareth Jones ei ethol i gynrychioli etholaeth Conwy yn y Cynulliad yn 1999, collodd y sedd yn 2003 cyn ennill sedd newydd Aberconwy yn 2007.
Enillodd Gareth Jones sedd yn y Cynulliad yn 1999 a 2007
|
Yn wahanol i'r lleill, all Gareth Jones ddim ymgyrchu ar ran ei blaid gan ei fod eisoes wedi dechrau ar swydd newydd gyda'r Llywodraeth - mae'n un o'r Comisiynwyr sydd wedi eu penodi i ddatrys problemau Cyngor Ynys Môn. "Mae'n deimlad rhyfedd iawn, mi faswn i fel arfer yn ymgyrchu ac yn cynorthwyo." Mae'n dweud y bydd yn teimlo'n "chwithig" pan fydd y Cynulliad nesaf yn ymgynull. "Bydd y Cynulliad ar ei newydd wedd yn sefydliad tra gwahanol i'r sefydliad pan ges i fy ethol yn 1999. "Mae'n adeg gyffrous iawn, mae'r pleidiau'n cael ymgyrchu a dweud sut y byddan nhw'n deddfu - sy'n wahanol iawn i'r tair ymgyrch ddiwethaf. "Mae pwy bynnag sy'n cael y fraint o gynrychioli etholaeth neu ranbarth yn cael mynd i sefydliad gwahanol a llawer mwy cyfrifol. "Mae'n mynd i fod yn adeg gyffrous." Dydy Janet Ryder o Blaid Cymru ddim yn sefyll eto chwaith. Un aelod annibynnol oedd yn y trydydd Cynulliad ac fe gyhoeddodd Trish Law fis Medi'r llynedd na fyddai hi'n sefyll eto ym Mlaenau Gwent.
|