British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Ebrill 2011, 12:56 GMT 13:56 UK
Dychwelyd mainc goffa gafodd ei dwyn

Meg Burgess
Bu farw Meg Burgess yng Ngorffennaf 2008

Mae mainc goffa gafodd ei dwyn o ardd yn Sir Ddinbych wedi dod i'r fei.

Gosodwyd y fainc mewn gardd i gofio am Meg Burgess, merch fach dair blwydd oed fu farw pan ddisgynnodd wal arni ger ei chartref ym Mhrestatyn yn 2008.

Roedd yr ardd ger meithrinfa Tiny Tots yr oedd Meg yn aelod ohoni.

Bythefnos yn ôl fe welwyd lladron ar gamerâu cylch cyfyng yn dwyn y fainc o'i seiliau concrit.

Ar y pryd dywedodd rieni Meg, Peter a Lindsay Burgess, fod y drosedd yn un "siomedig a chywilyddus" gan apelio am gael y fainc yn ôl.

'Cydwybod'

"Mae'n rhaid bod y lladron yn teimlo'n euog a phenderfynu dychwelyd y fainc," meddai Kirsty Jones o feithrinfa Tiny Tots ddydd Gwener.

"Dywedodd y ddwy fenyw ddaeth o hyd iddi nad oedd hi yno nos Fercher.

"Mae'n ymddangos bod y lladron wedi ceisio tynnu'r plac efydd oddi arni gan fod dwy sgriw ar goll, ond dwi'n falch ei bod hi'n ymddangos eu bod cael pwl o gydwybod."

Mae teulu Meg yn dal i ddisgwyl clywed penderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron os fydd unrhyw un yn wynebu cyhuddiadau troseddol am y digwyddiad pan fu farw eu merch.



HEFYD
'Trosedd siomedig a chywilyddus'
30 Maw 11 |  Newyddion
Beirniadu oedi cyn cynnal cwest
22 Awst 10 |  Newyddion
Marwolaeth: Ymchwiliad yn parhau
28 Gorff 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific